Newyddion

Y cam nesaf ar gyfer cynllun tai newydd

Wedi ei bostio ar Monday 19th April 2021

Gall cynllun newydd arloesol i gynnig cartrefi fforddiadwy i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref symud i'r cam nesaf.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn prydlesu rhan o faes parcio Hill Street i Linc Cymru ar gyfer prosiect tai cymorth.

Bydd deuddeg fflat hunangynhwysol yn cynnig llety "symud ymlaen", i bobl sydd wedi bod mewn llety dros dro, mewn lleoliad sy'n agos at wasanaethau hanfodol.

Bydd Linc Cymru yn rheoli'r tenantiaethau a'r cymorth a roddir i'r preswylwyr i'w galluogi i gael bywyd mwy sefydlog a diogel. Y nod fyddai eu helpu i gael llety tymor hwy lle gallent fyw'n annibynnol.

Bydd ymgynghori â chymdogion yn dechrau'n fuan cyn cyflwyno cais cynllunio llawn.

Bydd gwaith yn mynd rhagddo i ddechrau gan ddefnyddio hawliau datblygiad a ganiateir a gyflwynwyd i alluogi sicrhau llety brys at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys digartrefedd.  Bydd y datblygiad hwn a ganiateir ar waith am hyd at 12 mis ac os na roddir caniatâd cynllunio, bydd angen cael gwared â'r datblygiad.

Caiff pob rhan o'r maes parcio ei gau pan fydd y gwaith yn dechrau ond bydd rhan ohono'n gweithredu fel maes parcio eto ar ôl y gwaith.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Hyd yn oed cyn y pandemig, ein nod oedd helpu pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety. Oherwydd y Coronafeirws, mae hyn yn fwy hanfodol ac mae pawb wedi gallu canolbwyntio ar hyn yn fwy, gan gynnwys llawer o'r rheiny sy'n byw ar y stryd a ddechreuodd ymgysylltu â gwasanaethau am y tro cyntaf.

 

"Nid yw wedi bod yn hawdd gan fod gan rai pobl broblemau cymhleth ac, yn anffodus, mae lleiafrif o hyd sy'n gwrthod cymorth am wahanol resymau ond mae ein tîm tai a'n partneriaid yn parhau i geisio gweithio gyda nhw.

"Dod o hyd i lety priodol fu ein her fwyaf a daethpwyd o hyd i nifer o atebion, gan gynnwys yr unedau tai dros dro yn Mission Court. Mae'r cymorth a roddwyd, yn ogystal â'r llety a gynigiwyd, wedi bod yn hollbwysig ac mae wedi trawsnewid bywydau llawer o bobl.

"Mae cam nesaf delio â'r mater hwn yn hanfodol gan ein bod am helpu pobl sydd bellach mewn llety dros dro i ddod o hyd i gartrefi mwy parhaol. Bydd cynllun Linc Cymru yn cynnig fflatiau hunangynhwysol i hyd at 12 o bobl a fydd yn gallu cael gafael ar gymorth targedig nes y byddant yn barod i fyw'n annibynnol."

More Information