Newyddion

Apêl yr Arweinydd i amddiffyn ein dinas

Wedi ei bostio ar Tuesday 18th January 2022

Mae'r Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd yn apelio at drigolion ac ymwelwyr i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol wrth i'r ddinas weld cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19:

"Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r cynnydd mewn achosion ledled y wlad ac yn enwedig yr effaith ar ein hawdurdod cyfagos, Caerffili.

"Heddiw rwy'n annerch pob preswylydd Casnewydd a phob ymwelydd â'n dinas i weithredu nawr i leihau lledaeniad y feirws.

"Nid yw Covid-19 wedi diflannu – mae achosion ar gynnydd yng Nghasnewydd. Fe'ch anogaf i atgoffa eich hunain o'r rheolau a'r canllawiau a sicrhau eich bod yn eu dilyn yn ddi-ffael.

"Mae angen i bob un ohonom gyfyngu ein cyswllt â phobl; dilyn y cyfreithiau ynghylch pwy y cawn ei weld; golchi ein dwylo'n rheolaidd; cadw ein pellter oddi wrth eraill; a gwisgo masg wyneb lle mae ei angen neu lle na allwn gynnal y pellter pwysig hwnnw o ddau fetr.

"Mae Covid yn nes nag yr ydym yn ei feddwl ac mae adroddiadau'n dod i mewn o achosion positif sy'n gysylltiedig â phob math o leoliadau a digwyddiadau. Rydym ni i gyd wedi gwerthfawrogi a mwynhau ychydig mwy o ryddid ers i'r cyfyngiadau symud llawn gael eu codi ac rydym am iddo barhau. Ond dim ond os cymerwn y rhagofalon angenrheidiol hyn y gallwn gyflawni hynny.

"Fel cyngor rydym yn gweithio'n agos gyda busnesau a sefydliadau i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn cael ei gefnogi a'i gynnal. Ond pan fyddwn ni'n mynd allan – boed hynny i’r siop, bwyty, ar fws neu i'r ysgol, rhaid i ni hefyd gymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd – er mwyn amddiffyn ein hunain, ein ffrindiau a'n teulu a phawb rydyn ni'n dod i gysylltiad â nhw.

"Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn rhoi eich manylion ar gyfer olrhain cyswllt pan fo angen – mae'r system yno i'n hamddiffyn ac i helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach pan fydd gennym achosion positif.

"Efallai y byddwn hefyd yn teimlo'n ddiogel gyda'n ffrindiau a'n teulu agos, ond cofiwch y gallech fod yn heintus heb ddangos unrhyw symptomau. Mae angen i ni gynnal terfynau ein cartref estynedig a phellter oddi wrth eraill.

"Mae angen i ni dynnu ynghyd fel dinas drwy aros ar wahân – helpwch ni i gadw Casnewydd yn ddiogel."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.