Newyddion

Teyrnged i'r cyn-faer Noel Trigg

Wedi ei bostio ar Monday 2nd November 2020

Yr ydym wedi cael y newyddion trist bod Noel Trigg, cyn-faer a chynghorydd Casnewydd, wedi marw ac mae hyn yn arbennig o ingol gan ei fod yn dod mor fuan ar ôl marwolaeth ei wraig Valerie.

Roedd y ddau ohonynt yn cynrychioli'r ddinas gydag urddas ac ymrwymiad pan oedd Noel yn faer yn 2008/2009 ac roedd Valerie yn faeres.

Bu Noel yn gwasanaethu pobl Casnewydd am flynyddoedd lawer, fel cynghorydd sir ac yn cynrychioli ward Betws fel cynghorydd dinas.

Mae ein cydymdeimlad a'n meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau.

Y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.