Newyddion

Wythnos Gofalwyr – gwneud gofalu'n weladwy

Wedi ei bostio ar Thursday 4th June 2020

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth am ofalu, tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod eu cyfraniad.

Rhwng 8 a 14 Mehefin bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn rhannu gwybodaeth ar y cyngor a chymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl. 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, "gall bod yn ofalwr fod yn foddhaus iawn ond gall effeithio arnoch yn gorfforol ac yn emosiynol ac mae gofalwyr yn aml yn teimlo'n ynysig.

"Y thema eleni yw gwneud gofalu'n weladwy a'i nod yw helpu gofalwyr i gael gafael ar yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.  Er na fydd unrhyw ddigwyddiadau ffisegol yn cael eu cynnal, bydd tîm cysylltwyr cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth i ofalwyr drwy adnoddau ar-lein a thros y ffôn ac e-bost."

Drwy gydol wythnos gofalwyr, bydd tîm y cysylltwyr cymunedol yn rhoi gwybodaeth am wahanol agweddau ar ofalu. Bydd y rhain yn cynnwys y cymorth sydd ar gael i ofalwyr, cyngor ar warchod a chymorth penodol yn ystod pandemig COVID19.

Ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Carers/Carers.aspx neu ffoniwch 01633 656656.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.