Newyddion

Cerbydau wedi'u hatafaelu ar ôl ymchwiliad tipio anghyfreithlon yng Nghoedcernyw

Wedi ei bostio ar Monday 14th December 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi atafaelu dau gerbyd a ddefnyddiwyd i gyflawni troseddau tipio anghyfreithlon yng Nghoedcernyw.

Ymwelodd swyddogion o dîm gorfodi masnach y cyngor a Heddlu Gwent â safle preswyl Ellen Ridge y bore yma i gyhoeddi'r hysbysiadau atafaelu yn rhan o Ymgyrch Ascent. 

Roedd y cerbydau gafodd eu hatafaelu wedi eu nodi’n rhai a ddefnyddiwyd i dipio gwastraff yn anghyfreithlon ar hen safle ffordd fynediad LG yn dilyn ymchwiliadau gan y cyngor.

Mae dau hysbysiad cosb benodedig ar wahân hefyd wedi'u cyflwyno'n ddiweddar ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon ar yr un safle.  

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor "Mae ein tîm gorfodi wedi bod yn gweithio'n galed i nodi'r rhai sy'n gyfrifol am dipio anghyfreithlon ar hyd y ffordd hon, ac rydym yn falch ein bod, o ganlyniad, wedi gallu atafaelu'r ddau gerbyd hyn y bore yma. 

"Mae tipio anghyfreithlon yn bla ar ein cymunedau lleol a'r amgylchedd, ond drwy gydweithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid eraill, byddwn yn parhau i roi camau ar waith yn erbyn y rhai sy'n ymwneud â gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon."

Dywedodd y Sarsiant Phil Welti o dîm plismona cymdogaeth gorllewin Casnewydd:  "Rydyn ni’n gweithio'n rheolaidd gydag asiantaethau partner i ddiogelu’r cyhoedd a rhoi sicrwydd iddyn nhw. 

"Mae'r ymgyrch hon yn amlygu ein hymrwymiad i ddull cydweithredol o fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon sy'n difetha ein cymunedau.  Bydd cerbydau y nodwyd eu bod yn ymwneud â'r math hwn o weithgarwch anghyfreithlon yn cael eu symud o'n heolydd drwy ddulliau gorfodi rhagweithiol.

"Byddem yn annog y cyhoedd i roi gwybod i'w hawdurdod lleol am unrhyw achosion o waredu gwastraff yn anghyfreithlon ac i sicrhau bob amser bod unrhyw un y maen nhw’n rhoi eu gwastraff iddo yn gludwr cofrestredig."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.