Newyddion

Canolfannau prawf Covid-19 dros dro i agor yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd December 2020
Covid Testing

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor unedau profi Covid-19 symudol ychwanegol yn ardaloedd Tŷ-du a’r Gaer yng Nghasnewydd.

Bydd yr unedau dros dro yn darparu gwasanaeth ‘cerdded i mewn’ i drigolion Tŷ-du, y Gaer, Pye Corner a’r Graig.

Os oes gennych unrhyw symptomau o’r Coronafeirws (Covid-19) – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl, gofynnwch am brawf cyn gynted â phosibl.

Ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test 

Os oes gennych symptomau, dylech chi ac unrhyw aelodau o'r cartref ynysu ar unwaith.  Dylai eich cartref cyfan barhau i ynysu nes y daw canlyniad y prawf i law. Os yw'r prawf yn bositif, dylai holl aelodau'r cartref a chysylltiadau agos barhau i ynysu am 10 diwrnod yn unol â'r canllawiau cyfredol.

Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith.

Lleoliadau ac amserau agor

Ysgol Gynradd Tŷ-du, Ebenezer Drive, NP10 9YX

Dydd Iau 24 Rhagfyr:          10am - 4pm

Dydd Gwener 25 Rhagfyr: 11am - 3pm

Dydd Sadwrn, 26 Rhagfyr: 10am – 4pm

Dydd Mercher 30 Rhagfyr: 10am - 4pm

Dydd Iau 31 Rhagfyr: 10am - 4pm

Dydd Gwener 1 Ionawr: 10am - 4pm

Ysgol Bryn Derw - Ysgol Arbennig (Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig), Melfort Road, NP20 3FQ

Dydd Sul 27 Rhagfyr:          10am - 4pm

Dydd Llun 28 Rhagfyr:        11am – 3pm

Dydd Mawrth 29 Rhagfyr:  10am – 4pm

Dydd Sadwrn 2 Ionawr:  9am - 4pm

Dydd Sul 3 Ionawr: 9am-4pm

 

  • Dylech gael prawf hyd yn oed os yw eich symptomau'n ysgafn iawn
  • Gwneir y prawf mewn 5 munud
  • Ar gyfer trigolion Casnewydd yn unig  Dewch ag ID a thystiolaeth o’ch cyfeiriad gyda chi
  • Gwisgwch orchudd wyneb ar y ffordd i'ch prawf ac oddi yno
  • Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau neu leoedd eraill ar y ffordd i’ch prawf neu oddi yno
  • Dylech ymbellhau’n gymdeithasol gan sicrhau bod 2 fetr rhyngoch chi ac eraill
  • Cofiwch, os oes gennych unrhyw symptomau o’r Coronafeirws, rhaid i chi a'ch aelwyd gyfan hunanynysu gartref nes i chi gael canlyniadau eich prawf. Peidiwch â mynd i'r gwaith, peidiwch ag anfon eich plant i'r ysgol, peidiwch â derbyn ymwelwyr i’r cartref a pheidiwch ag ymweld ag eraill. Arhoswch gartref hyd nes y bydd canlyniad eich prawf yn dod i law.
  • Mae mesurau llym ar waith i'ch amddiffyn chi a'n staff ar y safle
  • Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith

I drefnu prawf drwy ffenestr y car, neu i bobl sy'n byw y tu allan i Gasnewydd, ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test 

More Information