Dyddiadau'r tymor ysgol a dysgu cyfunol
Wedi ei bostio ar Tuesday 8th December 2020
Yn unol â’r dull y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y bwriad yw parhau ag addysgu a dysgu wyneb yn wyneb yn ysgolion Casnewydd tan ddiwedd y tymor.
Mae trafodaethau wedi’u cynnal gyda phenaethiaid ac rydym yn cydnabod bod manteisio i’r eithaf ar faint o addysgu a wneir yn yr ystafell ddosbarth ar ôl blwyddyn mor drafferthus, yn hanfodol bwysig.
Mae gan yr holl ysgolion bolisïau ac arferion diogel ar waith ar gyfer delio â Covid, ac er ei bod yn anochel y ceir achosion ac ysgolion yr effeithir arnynt, y datblygwyd y cynnig dysgu cyfunol i liniaru’r absenoldebau hynny, mae’r cyngor am fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i ddysgu wyneb yn wyneb.
Rydym hefyd yn cydnabod y pwysau a roddwyd ar rieni a gofalwyr o gan orfod cydbwyso gwaith ac ymrwymiadau eraill wrth gynorthwyo plant sydd wedi gorfod aros adref.
Byddwn yn parhau i fonitro hynt y pandemig a chanllawiau Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff pob myfyriwr yr addysg orau bosib wrth aros yn ddiogel ac iach.