Dysgu wyneb yn wyneb i ddisgyblion cynradd ar ddiwedd y tymor
Wedi ei bostio ar Friday 11th December 2020
Bydd ysgolion cynradd Casnewydd yn darparu dysgu cyfunol yn hytrach na gwersi wyneb yn wyneb ar ddau ddiwrnod olaf y tymor, 17 a 18 Rhagfyr.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles:
"Mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud oherwydd y cynnydd sylweddol mewn achosion yng Nghasnewydd. Ein blaenoriaeth yw cadw Casnewydd yn ddiogel, amddiffyn aelodau mwy agored i niwed ein cymuned a lleihau'r straen ar ein gwasanaeth iechyd.
"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd gan ein bod yn gwybod y bydd yn effeithio ar rieni a gofalwyr.
"Bydd athrawon yn parhau i gyflwyno gwersi ar ddau ddiwrnod olaf y tymor i ddisgyblion cynradd a fydd yn sicrhau na fydd disgyblion gyda'i gilydd mewn ystafelloedd dosbarth am wythnos cyn llacio rhywfaint ar y rheolau ar gyfer cyfnod yr ŵyl, yn unol â chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru.
"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu teuluoedd i gael Nadolig hapus ac iach."