Newyddion

Cwm Pilton - hafan i gerddwyr

Wedi ei bostio ar Tuesday 15th October 2019
Pilton Vale site visit resized oct 2019

Cwm Piltont: Cllr David Mayer, NCC officer Luke Stacey & Cllr James Clarke, with front left, Cllr Jane Mudd & Cllr Deb Harvey

Mae project i wella llwybrau cerdded yng Nghwm Pilton wedi’i gyflawni gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Mae’r gofod agored amgylcheddol, sy’n gartref i amrywiaeth o gynefinoedd o laswelltir a choetir i redyn a glwyptir, bellach yn rhoi’r cyfle i gerddwyr grwydro’r safle hyfryd hwn a gweld y gwaith sydd wedi’i wneud.

Mae’r project, a gymerodd ychydig dros ddeufis i’w gwblhau, wedi disodli hen bontydd a llwybrau pren sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd gyda strwythurau plastig a metel mwy gwydn sydd wedi’u hailgylchu.

Mae llwybr cylchol mwy hygyrch â ramp hygyrchedd gwell hefyd wedi’i greu fel y gall ymwelwyr grwydro a gweld y bywyd gwyllt lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden: “Ry’n ni wrth ein bodd o fod wedi gallu gwella’r man agored hwn, sydd wedi dirywio a’i fandaleiddio dros y blynyddoedd diwethaf.

“Dwi’n gobeithio y gall ymwelwyr nawr fwynhau’r safle, sy’n cynnig amgylchedd mwy dymunol i bawb o bob oedran.”

Mae mynediad i’r safle oddi ar Pillmawr Road, lle mae lle i nifer fach o geir, neu drwy’r mynedfeydd i gerddwyr o ystâd Cwm Pilton.

Mae gwasanaethau Bws Casnewydd hefyd yn rhedeg drwy’r ystâd. I gael rhagor o wybodaeth am beth gallwch ei ddisgwyl yn y safle hwn, ewch i: http://www.newport.gov.uk/en/Leisure-Tourism/Countryside--Parks/Wildlife-walks/Pilton-Vale.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.