Newyddion

Llys yn cytuno i orchymyn cau ar gyfer siopau sy'n gwerthu tybaco anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Tuesday 15th October 2019
Azmar mini market closure order

Ar 26 Gorffennaf, cyflwynwyd gorchymyn cau i Azmar Mini Market o 92 Commercial Street, Casnewydd am yr un drosedd

Mae dwy siop sy’n gwerthu gwerth miloedd o bunnoedd o dybaco anghyfreithlon wedi cael eu cau yn dilyn ymchwiliad hir gan swyddogion Safonau Masnach yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

Cafodd tystiolaeth fod y siop Zam Zam yn 58 Commercial Street, Casnewydd yn gwerthu sigaréts a thybaco anghyfreithlon a ffug am brisiau gostyngol ei chyflwyno gerbron Ynadon Casnewydd ar 10 Hydref.

O ganlyniad, llwyddodd y cyngor i gael gorchymyn cau ar gyfer y safle. Yn gynharach eleni, ar 26 Gorffennaf, cyflwynwyd gorchymyn cau i Azmar Mini Market o 92 Commercial Street, Casnewydd am yr un drosedd.

Clywodd y llys fod y ddau safle, dros y blynyddoedd, wedi gwerthu llawer o dybaco anghyfreithlon ac er gwaethaf nifer o ymweliadau gan swyddogion Safonau Masnach, cyrchoedd, arestiadau ac atafaeliadau, parhaodd y bobl yn y siopau i werthu.

Yn aml byddai perchnogion y busnes yn newid yn fuan ar ôl pob cam gorfodi ac roedd y trosiant uchel o staff yn peri rhwystredigaeth i swyddogion wrth iddynt gyflawni’r dulliau gorfodi traddodiadol o archwilio ac atafaelu.

Roedd y cyngor a’i bartneriaid yn poeni nad oedd y siopau hyn yn fwy na ‘ffrynt’ ar gyfer gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon gan droseddwyr cyfundrefnol.

Ers mis Chwefror 2015 mae pobl yn y siop Zam Zam wedi bod yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn rheolaidd i ddefnyddwyr, ac i weithredwyr cudd ar 25 achlysur.

Cynhaliwyd pedwar atafaeliad, gyda chyfanswm o 3,744 pecyn o sigaréts â gwerth manwerthu o £37,000 a 303 pecyn o dybaco â gwerth manwerthu o £6,000.

Ers mis Mawrth 2016 mae pobl yn Azmar Mini Market wedi bod yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn rheolaidd i ddefnyddwyr, ac i weithredwyr cudd ar 14 achlysur. Cynhaliwyd pedwar atafaeliad, gyda chyfanswm o 1,584 pecyn o sigaréts â gwerth manwerthu o £15,000 a 463 pecyn o dybaco gwerth £8,000.

Gwnaeth ymchwilwyr ariannol y cyngor atafaelu £7,000 pellach drwy wrandawiad enillion troseddau.

Cafodd Zam Zam ac Azmar eu cau am dri mis.

Roedd yr ymchwiliadau’n cynnwys Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Ash Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, NOW Casnewydd a Thollau Tramor a Chartref EM. 

Gwnaeth y Cynghorydd Ray Truman, yr aelod cabinet dros drwyddedu a rheoleiddio, ganmol y gwaith tîm a arweiniodd at gau’r siopau ac atal gwerthu cynhyrchion anghyfreithlon; pwysleisiodd bwysigrwydd mynd i’r afael ag ymddygiad anghyfreithlon a nodi bod camau o’r fath yn dacteg allweddol yn ymdrechion y cyngor i wella iechyd ein dinasyddion ac atal masnachwyr twyllodrus.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.