Newyddion

Ymgyrch recriwtio ar gyfer Swyddogion Gorfodi Sifil

Wedi ei bostio ar Wednesday 20th March 2019

Caiff gyrwyr sy’n parcio’n anghyfreithlon eu dirwyo gan Gyngor Dinas Casnewydd o 1 Gorffennaf, pan ddaw Gorfodi Parcio Sifil ar waith.

Ac mae’r cyngor nawr wedi lansio ymgyrch recriwtio i benodi tîm o Swyddogion Gorfodi Sifil brwdfrydig, llawn cymhelliad ac ymroddgar i ddarparu’r gwasanaeth.

Gwnaed cais ffurfiol ar gyfer trosglwyddo grymoedd gorfodi parcio i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2018.

Mae’n dilyn cadarnhad gan Heddlu Gwent eu bod yn bwriadu ildio eu swyddogaeth gorfodi parcio, a phenderfyniad y cyngor ym mis Ionawr 2018 i wneud cais am rymoedd gorfodi sifil yn y ddinas.

Yn y cyfamser, mae swyddogion rheoli traffig yn cynnal rhaglen waith i adolygu gorchmynion traffig a gwirio rheoliadau yn ogystal â gosod llinellau melyn ac adnewyddu arwyddion pan fo angen.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod cabinet y cyngor dros Strydlun: "Bydd trosglwyddo'r grymoedd Gorfodi Parcio Sifil yn galluogi'r cyngor i ddarparu dull cyson a chydlynol o orfodi rheoliadau traffig a bydd yn helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd, llif y traffig a lleihau rhwystrau ar y ffyrdd.

"Byddwn yn chwarae ein rhan yn y gwaith o greu cymunedau bywiog a diogel ar gyfer preswylwyr a busnesau, felly byddwn yn targedu ein adnoddau mewn ardaloedd allweddol fel canol trefi prysur, y tu allan i ysgolion a mannau prysur eraill, yn ogystal ag ardaloedd preswyl."

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn un o awdurdodau lleol Gwent sydd wedi gwneud cytundeb gyda chyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT) a fydd yn darparu cymorth gweinyddol a 'swyddfa gefn' i'r cynllun yn ogystal â phrosesu’r weithdrefn apelio.

Mae RhCT wedi bod yn cyflawni'r gwasanaeth hwn yn ei ardal ers sawl blwyddyn ac mae gan y Cyngor staff profiadol a systemau perthnasol ar waith.

I ddysgu mwy am rôl Swyddog Gorfodi Sifil, ewch i wefan y Cyngor (ar gau)

Y diwrnod cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 7 Ebrill.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.