Newyddion

Adeilad yng Nghasnewydd ar y rhestr fer am wobr fawreddog

Wedi ei bostio ar Thursday 8th November 2018
All Wales Proton Centre pic resized

Mae Canolfan Therapi Pelydr Proton arloesol Casnewydd

Mae Canolfan Therapi Pelydr Proton arloesol Casnewydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC 2018.

Mae’n un o 12 project o bob rhan o wledydd Prydain sy’n cystadlu am y teitl Adeilad Gwasanaeth Cyhoeddus Gorau.

Gwnaeth tîm y project, Pravida Bau, John Weaver Construction Ltd, Atkins Global, Rutherford Cancer Centre a thîm rheoli adeiladau Cyngor Dinas Casnewydd ennill camau de Cymru a Chymru gyfan i gyrraedd y rownd derfynol.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC yn dathlu cyflawniadau yn y diwydiant adeiladu ac yn gwobrwyo adeiladau gwych a chwmnïau a phartneriaethau rhagorol.

Mae’r elfennau sy’n cael eu hystyried yn cynnwys cydymffurfio â rheoliadau adeiladu, perthnasau gwaith effeithiol ag arolygwyr rheoli adeiladau’r cyngor, crefftwaith campus a chynaliadwyedd.

Cyhoeddir enillydd y wobr Adeilad Gwasanaeth Cyhoeddus Gorau a chategorïau eraill mewn seremoni yn Llundain ar 9 Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros adfywio a thai: “Dwi wrth fy modd fod y project adeiladu gwych hwn wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol fawreddog sy’n cydnabod a dathlu partneriaethau llwyddiannus rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus.

“Mae’n dangos y safonau hynod o uchel a gyflawnwyd gyda’r Ganolfan Therapi Pelydr Proton. Waeth beth fydd y canlyniad ar 9 Tachwedd – a byddaf yn croesi fy mysedd – gallant fod yn falch iawn o gyrraedd y rownd derfynol.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.