Newyddion

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Dadlennu Cynllun Busnes Pum Mlynedd ar gyfer De-ddwyrain Cymru

Wedi ei bostio ar Thursday 15th March 2018
    Croesawodd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd heddiw y penderfyniad gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i gymeradwyo cynnig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am £6 miliwn o gyllid oddi wrth Gronfa Her Ffibr Llawn Ton 2 Leol i alluogi gwell cysylltedd digidol yn ne-ddwyrain Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac arweinydd portffolio Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar y strategaeth ddigidol: "Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ddyhead i ymestyn y "bwa arloesi" sy'n mynd ar hyd coridor yr M4 i mewn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, a thema ganolog o fewn uchelgais Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw darparu seilwaith digidol ardderchog ac ecosystem ehangach i gynnal twf economaidd.

"Gwelwn y cynnig hwn yn bendant iawn fel y cam cyntaf ar daith hwy i faethu rhanbarth sydd wedi'i gysylltu'n ddigidol fydd yn cynnig newid sylfaenol i fusnesau yn y gwasanaethau y maent yn gallu'u darparu ac yn cynnig modd i breswylwyr gael at y gwasanaethau y maent yn eu haeddu.

"Mae gennym weledigaeth glir i ddatblygu amgylchedd fydd nid yn unig yn parhau i ddenu mentrau sydd ar y blaen ym myd diwydiant i mewn i'r ardal, ond fydd hefyd yn annog datblygu Busnesau Bach a Chanolig fydd yn cydategu ac yn cefnogi'r twf hwn. 

"Mae seilwaith digidol yn ganolog i'r weledigaeth hon, gan y bydd yn darparu llwyfan i symbylu'r cyfryw dwf, gan ein helpu i gyflawni'n dyheadau ac i droi'n strategaeth dros y cyfnod hwy i fod yn strategaeth i gyflawni."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Hoffwn gofnodi'n swyddogol fy niolch i'r tîm a luniodd y cynnig llwyddiannus hwn.

"Mae gwell cysylltedd digidol yn hanfodol i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Ne-ddwyrain Cymru, a dim ond megis dechrau yw'r prosiectau hyn ar ein strategaeth gyfnod hir i sicrhau bod ein rhanbarth yn un o'r rhanbarthau mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig."

Bydd y cynnig llwyddiannus yn cyfrannu tuag at gynlluniau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i adeiladu ar fuddsoddiadau cyfredol, yn ogystal â chreu enw da i'r rhanbarth fel un o'r canolfannau technoleg sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig.  Yn neilltuol, fe fydd yn cynorthwyo Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i:

    • archwilio'r achos dros gysylltedd rhyngwladol uniongyrchol
    • seilwaith y dechnoleg symudol ledled technolegau 4G a 5G sy'n ychwanegu gwerth at ddarpariaeth bresennol
    • cynyddu cysylltedd Wi-Fi ledled y rhanbarth
    • datrysiadau digidol i ddatrys problemau mawrion yn ymwneud â materion megis trafnidiaeth a thai
    • gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhanbarth data agored arloesol
    • hwyluso cydweithredu rhwng rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus a phreifat i nodi ac i fanteisio ar gyfleoedd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.