Ysgol fusnes dros dro boblogaidd yn dychwelyd i Gasnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 5th September 2017
Bydd digwyddiad am ddim i entrepreneuriaid y dyfodol, a ddisgrifiwyd fel ysbrydoledig, rhyfeddol a gwych pan ddaeth i Gasnewydd yn gynharach eleni, yn ôl eto ym mis Medi.
Daeth dros 100 o bobl i'r Ysgol Fusnes Dros Dro ym Marchnad Casnewydd dros gyfnod o bythefnos.
Bydd yn digwydd yn yr un safle rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11 a 22 Medi.
Bydd gweithdai a sgyrsiau'n helpu'r sawl sydd am gychwyn ei fusnes ei hun. Dros y 10 diwrnod, bydd pobl yn dysgu sut mae cychwyn eu mentrau heb arian, sut mae creu gwefan a sut mae gwneud arian trwy wneud rhywbeth y maen nhw wrth eu boddau yn ei wneud.
Am ragor o wybodaeth, yn cynnwys dysgu sut mae cofrestru, ewch i www.popupbusinessschool.co.uk/newport