Newyddion

Busnes pwdinau yn parhau i blesio

Wedi ei bostio ar Monday 11th September 2017

Mae Kaspa’s yn gweini danteithion blasus i ymwelwyr â chanol dinas Casnewydd ers iddo agor ei ddrysau mwy na thri mis yn ôl.

Roedd ymhlith y projectau a gafodd gymorth ariannol gan y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Cafodd hon ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i harwain yng Nghasnewydd gan gyngor y ddinas. Daeth i ben ym mis Mawrth.

Dywedodd Adam Anwar, un o berchenogion y busnes newydd: “Roedd y Cyngor yn anhygoel a rhoddodd cymaint o gymorth i ni. Mae ei gymorth wedi gwneud cymaint o wahaniaeth a diolch iddo, roedd modd i ni agor yn ôl yr amserlen a bennom."

Daeth y Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Thai, i edrych ar y busnes newydd ac i gwrdd â Mr Anwar.

“Ers llawer o flynyddoedd, roedd yr adeilad hwn yn gartref i haearnwerthwyr a seiri cloeau cyn iddo ddod yn siop dillad a symud i safle newydd yng nghanol y ddinas. Roedd yn wag am sbel wedyn felly mae'n wych ei weld yn cael ei ddefnyddio eto.

“Fel cyngor, rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i helpu gyda’r gwaith parhaus o adfywio canol y ddinas ac mae'n rhaid gwneud hyn mewn partneriaethau â’r trydydd sector a'r sector preifat gan gynnwys perchnogion eiddo.

“Mae gennym nifer o gynlluniau sy’n cynnig cymorth ariannol i entrepreneuriaid a gall ein tîm gwasanaethau busnes roi cyngor a gwybodaeth arbenigol.” 

I ddysgu mwy, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Business/Business-home-page.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.