Twristiaeth yn parhau i roi hwb i economi Casnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 28th November 2017
Mae diwydiant twristiaeth Casnewydd yn parhau i ffynnu, yn ôl y ffigurau diweddaraf.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae pwysigrwydd a gwerth yr economi i ymwelwyr wedi tyfu a chafwyd newid sylweddol rhwng 2015 a 2016.
Yn 2016, daeth 4.78 miliwn o bobl i'r ddinas, cynnydd o fwy na 57 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Yn ôl yr arolwg STEAM diweddaraf, £373.59 miliwn oedd effaith economaidd twristiaeth y llynedd, cynnydd o 19.4 y cant.
Cododd nifer yr ymwelwyr dydd hefyd i fwy na phedair miliwn, cynnydd o 74.8 y cant, tra chododd nifer yr ymwelwyr sy'n aros i 730,000, cynnydd o 0.7 y cant.
Roedd hefyd gynnydd o 23.3 y cant yn nifer y swyddi a gefnogir gan dwristiaeth gyda 4,102 wedi'u cyflogi yn y diwydiant y llynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Dyma newyddion gwych i Gasnewydd. Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein heconomi leol.
"Mae'n glir bod gan y ddinas lawer i'w gynnig ac, wrth i'n gwaith adfywio barhau ac wrth i ni barhau i gynnal digwyddiadau mawreddog, bydd mwy fyth yn denu pobl i Gasnewydd."
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros adfywio a thai: "Mae Casnewydd wedi cyflawni sawl project adfywio allweddol gan gynnwys agor Friars Walk ac mae mwy a mwy o ymwelwyr yn mynd i lefydd fel Tŷ Tredegar, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
"Mae'r calendr digwyddiadau'n tyfu - gan gynnwys yr ŵyl fwyd a digwyddiadau chwaraeon mawr - yn ogystal â llwybrau beicio a cherdded gwell sydd wedi helpu i ddenu ymwelwyr dydd.
"Mae'r fasnach deithio'n dangos mwy o ddiddordeb hefyd. Croesawyd cynrychiolwyr o drefnwyr teithiau yn ddiweddar, yr oedd rhai ohonynt yn ymweld â Chasnewydd am y tro cyntaf.
"Gyda disgwyl i Ganolfan Gonfensiynau Ryngwladol Cymru agor yn 2019, rydym yn edrych ymlaen at fwy o fuddsoddi mewn gwestai i ymdopi â galw sy'n tyfu."
Mae STEAM yn fodel gweithgareddau economaidd annibynnol a ddefnyddir gan yr holl gynghorau yng Nghymru.