Newyddion

Dechrau gwaith ar fan agored newydd yng nghanol y ddinas

Wedi ei bostio ar Friday 24th February 2017

Mae project i greu man agored rhwng dwy dramwyfa yng nghanol dinas Casnewydd wedi dechrau a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn hwyrach yn y gwanwyn.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dymchwel adeiladau i greu porth rhwng Commercial Street a Ffordd y Brenin.

Caiff St Paul's Walk ei dirlunio ac, yn ogystal â chynnig llwybr newydd a dymunol i gerddwyr, gallai o bosibl gael ei ddefnyddio i gynnal digwyddiadau yn y dyfodol.

Mae'r gwaith wedi'i wneud yn rhan o'r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yn ategu cynlluniau eraill sy'n gwneud gwir wahaniaeth yn y rhan honno o ganol y ddinas.

Mae eiddo, gan gynnwys yr Adeiladau Cenedlaethol hanesyddol, wedi'u hadnewyddu i greu unedau busnes a siopa gwell. Mae project i wella rhes o adeiladau gyferbyn â Mariner's Green, gan gynnwys y dafarn Alma, bron wedi'i gwblhau.

Mae cynlluniau hefyd i ddymchwel nifer o eiddo o gwmpas mynedfa'r maes pario yn Park Square i greu fflatiau ac i wella mynedfa'r maes parcio i gerddwyr.

Ar ochr arall y ffordd, mae cynigion i ddymchwel rhywfaint o Emlyn Walk a chreu sgwâr cyhoeddus hefyd wedi'u cymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd John Richards, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Buddsoddiad: "Mae Friars Walk wedi gwneud gwahaniaeth mawr ond cydnabuom ni fod angen rhoi sylw ar rannau eraill o ganol y ddinas ac rydym wedi defnyddio'r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i helpu busnes i wella eu heiddo.

"Mae eisoes wedi gwneud effaith a, pan fo'r holl brojectau wedi'u cwblhau - gan y cyngor, y sector preifat a'r trydydd sector - byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol er budd busnesau, trigolion ac ymwelwyr."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.