Pumed uwchgynhadledd y ddinas ar 18 Ionawr 2018
Wedi ei bostio ar Thursday 7th December 2017
Bydd cyrchfan Celtic Manor yn cynnal Uwchgynhadledd Dinas Casnewydd yn 2018
Cynhelir Uwchgynhadledd y Ddinas nesaf Casnewydd yng Ngwesty’r Celtic Manor ar 18 Ionawr 2018.
Bydd yn canolbwyntio ar gam nesaf adfywio’r ddinas yn ogystal â datblygiadau eraill a fydd yn rhoi hwb i’r economi leol a delwedd Casnewydd.
Mae Casnewydd yn parhau i ddenu diddordeb mawr gan fusnesau a buddsoddwyr sy’n gweld potensial y ddinas.
Ers yr uwchgynhadledd ddiwethaf yn 2016, bu nifer o gyhoeddiadau mawr yn cynnwys y ffowndri lled-ddargludydd sydd ar gynllun gan IQE, a fydd yn creu hyd at 2,000 swydd sgil-uchel.
Yn ogystal â busnesau newydd a rhai sy’n ehangu, mae enw da Casnewydd am gynnal digwyddiadau mawr wedi arwain at ei dewis ar gyfer y Marathon Casnewydd Cymru ABP gyntaf y flwyddyn nesaf a’r Gemau Trawsblaniad Prydeinig (ABP) yn 2019.
Bydd siaradwyr gwadd yn trafod rhai o’r projectau cyffrous sy’n llunio ac sydd ar y gorwel.
Cyhoeddir amserlen lawn a rhagor o fanylion yn fuan.
Yn y blynyddoedd blaenorol, mae Uwchgynadleddau’r Ddinas wedi bod yn llawn felly peidiwch â cholli cyfle. Mae’n rhaid cadw lle trwy gofrestru yn www.newport.gov.uk/citysummit.