Newyddion

Uwchgynhadledd y Ddinas 2018

Wedi ei bostio ar Wednesday 20th December 2017

Mae mwy na 200 o bobl eisoes wedi cofrestru ar gyfer Uwchgynhadledd nesaf Dinas Casnewydd yng Ngwesty'r Celtic Manor ar 18 Ionawr 2018.

Hon fydd y bumed uwchgynhadledd ac unwaith eto bydd yn achlysur pwysig yng nghalendr arweinwyr y ddinas, busnesau a phobl sydd â diddordeb yng nghynnydd Casnewydd.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar gam nesaf adfywiad canol y ddinas, bydd y digwyddiad yn sôn am brojectau mawr eraill sydd ar y gweill.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae hwn yn amser cyffrous iawn i'r ddinas ac mae llawer o ddiddordeb gan fuddsoddwyr posibl wrth i'n proffil a'n enw da fel lle gwych i wneud busnes dyfu.

  "Bydd gennym siaradwyr gwych a fydd yn gallu rhannu newyddion am eu gweledigaeth ar gyfer Casnewydd felly peidiwch â cholli'r cyfle i fynychu."

Caiff manylion llawn yr holl siaradwyr eu datgelu yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.