Busnes blasus yn cael dechreuad da
Wedi ei bostio ar Tuesday 15th August 2017
Mae busnes cludfwyd Thai newydd Pattarika Bankluay wedi derbyn cymorth cronfa a sefydlwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd i helpu busnesau newydd.
Yn ogystal â derbyn grant ar gyfer rhent y flwyddyn gyntaf, mae Patt-Thai wedi'i leoli mewn adeilad ar Ffordd Caerdydd sydd wedi'i ailwampio yn rhan o'r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Roedd Pattarika hefyd yn ddiolchgar am y cyngor ymarferol a'r arweiniad a dderbyniodd gan dîm gwasanaethau busnes y cyngor.
"Maen nhw wedi fy helpu gymaint ac mae'r grant wedi bod o gymorth gan ei fod wedi talu'r rhent am y chwe mis cyntaf," eglurodd.
Mae Pattarika wedi buddsoddi llawer o amser ac ymdrech i gael y busnes yn barod ac ar agor ond mae cynlluniau mawr eisoes ganddi i'w ddatblygu.
Roedd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet y cyngor dros adfywio a buddsoddi, yn falch o gwrdd â'r wraig fusnes ifanc wrth ymweld â'r bwyty.
"Mae dechrau busnes yn gam mawr ac rwy'n falch bod y cyngor wedi gallu helpu Pattarika, nid dim ond mewn modd ariannol bychan ond gyda chefnogaeth ymarferol hefyd.
"Mae'n gyffrous gweld person ifanc yn agor busnes yng Nghasnewydd ac rwy'n siŵr y bydd brwdfrydedd, angerdd ac ymrwymiad Pattarika yn arwain at ddyfodol llewyrchus a llwyddiannus."
Am fwy o wybodaeth am gynllun cymhorthdal rhent y cyngor, neu i gael gwybod am ddulliau cymorth eraill gan y tîm gwasanaethau busnes, ewch i www.newport.gov.uk/business