Newyddion

Ffair Swyddi Casnewydd yn denu busnesau'r ddinas

Wedi ei bostio ar Monday 21st August 2017

Mae Ffair Swyddi flynyddol Cyngor Dinas Casnewydd ar ddydd Mercher 13 Medi eleni yng Nghanolfan Casnewydd.

Mae'r Ffair, a drefnir gan Academi Dysgu ar Sail Gwaith y cyngor, yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd cannoedd o swyddi ar gynnig unwaith eto gan amrywiaeth o fusnesau a fydd yn mynychu'r lleoliad chwaraeon a hamdden yn Ffordd y Brenin. Bydd y digwyddiad o 10am tan 2pm.

Cwmnïau sydd am recriwtio yw Celtic Manor, Costain, Monmouthshire Building Society, Pure Gym a llawer mwy.

Y llynedd daeth mwy na 3000 o bobl i'r Ffair Swyddi ac roedd busnesau wrth eu boddau ag ystod ac ansawdd yr ymgeiswyr posibl.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Mae'r ffair flynyddol bob amser yn hynod boblogaidd gyda busnesau sydd am recriwtio staff newydd yn ogystal â phobl sydd am weithio. Bydd darparwyr hyfforddiant yno hefyd sy'n gallu helpu pobl sydd am wella eu sgiliau neu gael eu hailhyfforddi ar gyfer gyrfa newydd.

"P'un a ydych am ddod o hyd i'ch swydd newydd neu newid i rôl newydd, y ffair yw'r lle perffaith i ddechrau chwilio.

"Hoffwn i ddiolch i WBLA, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru sy'n cydweithio'n agos i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiannus yn ogystal â'r busnesau a'r darparwyr hyfforddiant am eu cyfraniad at y digwyddiad pwysig hwn yng nghalendr y ddinas."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.