Datblygiad newydd yn creu argraff ar aelod cabinet newydd
Wedi ei bostio ar Friday 11th August 2017
Aeth y Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Thai, i ymweld â chartrefi newydd a adeiladwyd ar safle hen dafarn adfeiliedig.
Cyfarfu hi hefyd ag un o drigolion y datblygiad gan Pobl Group ar Commercial Road, Casnewydd.
Cafodd naw fflat gyda pharcio dan ddaear a thŷ pedair ystafell wely eu hadeiladu ar safle tafarndai adfeiliedig y King's Arms a Top of the Range, yn gynharach eleni.
Dechreuodd preswylwyr, gan gynnwys Andrew Kelly, symud i mewn fis Chwefror diwethaf ac maen nhw dal i fod wrth eu boddau â'u cartrefi newydd, a rentir ganddynt drwy Gymdeithas Tai Siarter.
Sgwrsiodd y Cynghorydd Mudd, a gymerodd gyfrifoldeb dros bortffolio'r cabinet ym mis Mai, gyda Mr Kelly yn ei fflat newydd smart.
"Roedd hi'n wych gweld cymaint o wahaniaeth y mae'r datblygiad sympathetig hwn wedi'i wneud i'r ardal, ac mae'n enghraifft wych arall o weithio mewn partneriaeth.
"Mae Pobl wedi darparu llety o ansawdd gwych a hoffwn ddiolch i Andrew am fy ngwahodd i'w fflat y mae wedi'i throi'n gartref hyfryd."
Symudodd Mr Kelly i mewn fis Chwefror diwethaf ac mae'n dal i fwynhau byw yno. Dywedodd: "Rwy'n hoffi'r ffaith bod llawer o le. Rwyf wirioneddol yn edrych ymlaen at ddod adref ar ôl i mi fod allan am y dydd ac mae Siarter yn landlord da iawn."
Dywedodd Rhys Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Pobl: "Roedd hi'n wych cael y cyfle i ymweld â Mr Kelly a gweld drosof fy hun sut y mae wedi setlo i'w gartref newydd hardd, a chael cwrdd â'r Cynghorydd Mudd, yr Aelod Cabinet newydd dros Adfywio a Thai.
Mae'r cartrefi newydd hyn yn rhan o raglen fwy o ddatblygiadau tai fforddiadwy yng nghanol y ddinas, a gyflenwir gan Gyngor Dinas Casnewydd a Pobl, yn rhan o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, Llywodraeth Cymru.