Newyddion

Cytuno ar fuddsoddiad academaidd

Wedi ei bostio ar Wednesday 30th August 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig cyllid i ehangu'r Academi Meddalwedd Genedlaethol (NSA).

Cytunwyd y rhoddir grant gwerth £575,000 i'r NSA, sy'n rhan o Brifysgol Caerdydd, o gronfa adfywio ar y cyd a reolir gan y cyngor a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Academi'n dechrau symud i mewn i'r Orsaf Wybodaeth flwyddyn nesaf ar ôl cytuno y bydd cyngor yn is-osod tri llawr i'r brifysgol mewn project graddol.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Cysylltodd Prifysgol Caerdydd â'r cyngor gan fod yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi tyfu'n rhy fawr i'w chartref ger yr orsaf drenau.

  "Ein nos yw gwneud Casnewydd yn ganolfan dechnoleg felly roedd yn hanfodol ein bod yn cadw'r academi yn y ddinas. Mae'n denu mewnfuddsoddiad drwy gynhyrchu graddedigion medrus, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae mwy na 120 o gwmnïau wedi cysylltu â'r NSA.

  "Gallwn gynnig lle iddynt yn yr Orsaf Wybodaeth gan barhau i reoli 'siop un stop' ar gyfer gwasanaethau'r cyngor, felly dwi wrth fy modd ein bod wedi gallu dod i gytundeb i rannu'r adeilad nodedig hwn.

Meddai'r Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Thai: "Rydyn ni wedi sicrhau dyfodol hirdymor yr NSA yng Nghasnewydd.

  "Bydd y grant yn dod drwy gyllid cyd-fenter gan y cyngor a Llywodraeth Cymru ac rydym wedi cytuno i'w ddefnyddio ar brojectau adfywio economaidd a fydd o fudd i'r ddinas mewn sawl ffordd.

  "Dros y 10 mlynedd nesaf, mae'r brifysgol yn bwriadu buddsoddi £2m y flwyddyn yng Nghasnewydd. Bydd hyn yn creu swyddi newydd gan gynyddu nifer y graddedigion a chefnogi hyd at 20 o brojectau busnes bob blwyddyn. Mae'r NSA yn allweddol i'n dyheadau ar gyfer y ddinas."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.