Newyddion

Cyngor yn helpu busnesau i lwyddo

Wedi ei bostio ar Friday 1st September 2017

Mae Christine Naluggwa yn llawn canmoliaeth i'r help a roddwyd iddi gan dîm gwasanaethau busnes Cyngor Dinas Casnewydd.

Mae wedi sefydlu salon wig ac estyniadau gwallt, Glossy Lokcs, yng nghanol y ddinas yn ddiweddar.

Mae cwsmeriaid Ms Naluggwa yn cynnwys menywod sydd wedi colli eu gwallt yn dilyn triniaeth am ganser, ac mae'n werthfawr iawn gallu eu helpu.

Mae wedi gweithio'n galed i drawsnewid y safle, ac roedd yn ddiolchgar am y cymorth ymarferol ac ariannol a roddwyd gan y Cyngor.

  "Roedd gen i gymaint i'w wneud, ond mae popeth wedi bod yn werth chweil. Roedd cynrychiolydd tîm busnes y cyngor yn wych - rhoddodd lawer iawn o'i amser i fi."

Cafodd Glossy Locks gymhorthdal rhent canol y ddinas gan y cyngor, y bu'n bosib ei ddefnyddio i dalu rhai o'r costau yn ystod blwyddyn gyntaf bwysig y busnes.

Aeth y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet y cyngor dros adfywio a buddsoddi, i ymweld â'r salon a chwrdd â Ms Naluggwa.

  "Roedd yn wych gweld rhywun â chymaint o frwdfrydedd ac ymrwymiad. Mae Christine yn amlwg yn cynnig gwasanaeth gwych, yn arbennig i gwsmeriaid sy'n wynebu amser caled iawn. Dwi wrth fy modd fod y cyngor wedi gallu ei helpu yn y dyddiau cynnar hyn."

I gael rhagor o wybodaeth am y cymhorthdal rhent canol y ddinas a chymorth arall sydd ar gael, ewch i www.newport.gov.uk/business

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.