Browser does not support script.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn gwobr am ei waith i sicrhau bod Marchnad Casnewydd yn parhau wrth galon canol y ddinas. Daeth y prosiect i'r brig yn y categori Creu Twf Economaidd yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2022.
Ddydd Iau, bydd tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn cael ei oleuo'n goch i gofio am bawb a gollwyd i salwch sy'n gysylltiedig ag AIDS
Mae Estyn wedi tynnu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas o fesurau arbennig yn sgil gwelliannau.
Mae sesiynau materion ariannol yn cael eu cynnal mewn pedair canolfan gymunedol y mis hwn yn dilyn sioe Nadolig wych am ddim i'r teulu i gyd.
Gall ymwelwyr â chanol dinas Casnewydd ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr edrych ymlaen at hwyl yr ŵyl wrth gefnogi busnesau lleol.
Dywedwyd wrth y llys fod gan berchennog siop o Gasnewydd e-sigarennau untro gyda mwy o hylif sy'n cynnwys nicotin na'r hyn a ganiateir i'w werthu.
Gwahoddir trigolion Casnewydd i gymryd rhan a chefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar Ddydd Iau 25 Tachwedd.
Mae Maethu Cymru'n cynnal digwyddiad i recriwtio rhagor o ofalwyr maeth y mae eu hangen ar frys ledled Cymru.
Cafodd uned storio beiciau dan do newydd, y cyntaf o'i fath yng Nghasnewydd, ei hagor yn swyddogol y bore yma yn Skinner Street.
Eleni, caiff Diwrnod Hawliau Gofalwyr ei gynnal ddydd Iau 24 Tachwedd a bydd yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl ac yn cydnabod eu cyfraniad at ein cymdeithas.
Bydd yr heriau sy'n wynebu trigolion, busnesau ac unigolion ar flaen ystyriaethau'r cyngor wrth iddo gynllunio ei gyllideb ar gyfer 2023/24.
Bydd Parêd a Gwasanaeth blynyddol Sul y Cofio ar ddydd Sul 13 Tachwedd yng nghanol dinas Casnewydd.
Mae cerflun anferth wedi'i wneud o dros 100,000 o gyllyll, yn dod i Went ym mis Tachwedd yn rhan o daith gwrth-drais genedlaethol.
Bydd trigolion Casnewydd yn gallu cael gwybod am amrywiaeth o gymorth a chyngor mewn digwyddiad costau byw sy'n cael ei gynnal gan y Cyngor fis nesaf.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud cynnydd cadarnhaol tuag at ei nod o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd, ynghyd â'i bartneriaid, yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau am ddim gan roi cyfle i bawb ddod o hyd i'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i wella eu sgiliau digidol.
Mae Cartref Cŵn Dinas Casnewydd wedi ennill aur yng ngwobrau PawPrint RSPCA Cymru 2022 am eu gwaith gyda chŵn crwydr.
Bydd canol dinas Casnewydd yn cynnal digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig ysblennydd yn llawn hwyl i'r teulu cyfan ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.
Mae rhaglen Dechrau'n Deg yng Nghasnewydd yn tyfu i gynnwys hyd yn oed mwy o blant o'r hydref hwn.
Mewn ychydig dros wythnos bydd Gŵyl Fwyd Casnewydd yn dychwelyd i strydoedd Casnewydd am y tro cyntaf ers 2019.
Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.