Hanes Pobl Dduon Cymru 365

‘Beth am Wneud Hanes - Dathlu Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon yng Nghasnewydd’

Ysgrifenwyr Creadigol

Gan barhau â’n gwaith i gefnogi Hanes Pobl Dduon Cymru 365 eleni, mae’n bleser gennym rannu profiadau ysgrifennu creadigol dau o drigolion Casnewydd.

Mae Des Mannay a Benji Webb yn adnabyddus yng Nghasnewydd am eu prosiectau ysgrifennu a chreadigol.

Benji Webbe

Benji

“Ces i fy ngeni yn Somerton, fy magu yn Ringland, ond byddwch yn fy ngweld ym Mhilgwenlli yn bennaf y dyddiau ‘ma…

Es i’n hoff iawn o gerddoriaeth yn ifanc iawn a dw i wedi bod mewn bandiau yng Nghasnewydd ers 1993. Yn gyntaf, creais Dub War ym 1993 tan 1999, yr ail fand yw Skindred. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, dw i wedi chwarae mewn gwyliau mawr ledled y byd, gan ddenu llawer iawn o ddilynwyr a thorfeydd epig.

Yn ystod 2020, bu’n rhaid i Skindred ganslo cymaint o gyngherddau a gwyliau; Japan, Awstralia a De America, roedd yn siom fawr.  Mae’r pandemig wedi effeithio’n fawr ar ein gwaith a gwaith ystod eang o artistiaid yng Nghasnewydd.

Ers blynyddoedd, dw i ddim wedi treulio cymaint o amser gartref yn Nghasnewydd, a dewisais i ddefnyddio fy amser yn ysgrifennu. Ysgrifennais i albymau newydd, recordiais i a chreu albwm o ganeuon gan fandiau eraill; o roc clasurol i rocksteady ska, o’r enw Isolation Project 2020’. 

Dw i’n mwynhau bod yn greadigol ac ro’n i eisiau defnyddio’r amser rhydd newydd hwn i fod yn gynhyrchiol hefyd. Ro’n i bob amser wedi ffansi gwneud llyfr plant llawn lluniau, ond doeddwn i erioed wedi bod â’r amser. Byddwn yn aml yn creu straeon ar gyfer fy mhlant pan oedden nhw’n fach ac roedden nhw’n dwlu arnyn nhw.

Pan oedd un o’m hwyrion yn sâl, penderfynais i ddweud stori wrthi a chodi ei chalon, ac allan o’m dychymyg sbonciodd stori ‘Colin the Coolest Kitten’. Cysylltais i â darlunydd cŵl iawn a gyda’n gilydd, datblygon ni ein ffrind Colin.

Cymerodd 6 mis o weithio a datblygu’r syniad, a gan bod dyslecsia arna’ i, doedd hyn ddim yn hawdd. Ar 25 Tachwedd, o’r diwedd gwnes i ryddhau fy llyfr, ‘The Wonderful Adventure of Colin the Coolest Kitten’."

Gallwch archebu copi o’r llyfr yma

Des Mannay

Des

Mae Des yn awdur croenliw o Gymro.  Cyhoeddodd Waterloo Press ei gasgliad barddoniaeth cyntaf, “Sod ‘em - and Tomorrow” ac mae wedi derbyn nifer o wobrau, a chlod a chydnabyddiaeth am ei waith dros y blynyddoedd. Cafodd ei roi ar restrau byrion 7 o gystadlaethau a pherfformiodd mewn nifer o leoliadau/gwyliau, a chyhoeddodd mewn amrywiaeth o gylchgronau barddoniaeth, gyda’i waith mewn 19 o flodeugerddi barddoniaeth.

“Mae nifer o ddylanwadau o’m plentyndod a barodd i mi fod yn obsesiynol ynghylch chwarae gyda geiriau. Roedd fy rhieni bob amser â diddordeb mewn ceisio cael eu plant i wneud yn well nag oedden nhw wedi’i gyflawni. O’u herwydd nhw, ro’n i’n dwlu ar Dr Seuss cyn i fi ddechrau yn yr ysgol Doeddwn i ddim yn gallu darllen, ond ro’n i’n gallu adrodd straeon cyfan. Roedd fy ymgais cyntaf i gysylltu â grŵp barddoniaeth rywbryd yn gynnar yn y 1990au. Roedd yn llawn pobl groenwyn. Roedd yn llawn pobl dosbarth canol. Roedd yn llawn pob canol oed, ac roedd yn elitaidd iawn.   Es i ychydig o weithiau ac yna roi’r gorau iddi. Bedair blynedd ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth enaid hŷn o lawer o hyd i bentwr o hen gerddi yn yr atig, tynnu’r llwch a dechrau darllen. Fy mherfformiad cyntaf oedd digwyddiad barddoniaeth yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2014. A dyna ddechrau pethau eto.

Mae’n rhyfedd, pan yn blentyn, dydych chi ddim yn meddwl amdanoch chi eich hun fel lliw…. Ces i wybod fy mod i’n groenddu ar ddamwain. Bydden ni bob tro yn gwylio’r newyddion amser te. Tua 1972 rywbryd yr oedd hi, a dywedodd y darllenydd newyddion “ac mae’r Duon yn terfysgu yn…”  Rywle yn Llundain roedd hyn. Dywedais i “Dad, pwy yw’r duon?” Edrychodd fy nhad arna’ i’n goeglyd a dywedodd “Ni, ‘mab i….” Roedd yn foment o sylweddoli. “Aaaah - dyna pam mae pobl yn galw enwau od arna’ i yn yr ysgol”, meddyliais.

Mae ambell gerdd yn fy nghasgliad cyntaf yn ymdrin â rhai o’r materion hyn: Mae ‘They Call Me’ yn un lle dw i’n cysylltu’r profiad o hiliaeth â ffurfiau eraill ar wahaniaethu a pha mor llechwraidd a niweidiol y maen nhw.

Gwyliwch berfformiad o ‘They Call Me’ yma.

Adnoddau

Os cawsoch eich ysbrydoli neu os oes diddordeb gennych mewn dechrau ysgrifennu gallwch ddod o hyd i restr o adnoddau isod:

Ysgrifenwyr Creadigol Gwent

Cyrsiau Ysgrifennu Creadigol CWW

The Write Life Group

How To Write Poetry

BBC Ten Top Tips

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd