Gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantau

 

Asiantau pleidleisio 

 

Rhaid i asiantau roi hysbysiad penodi asiantau pleidleisio.   Nid oes terfyn ar nifer yr asiantau pleidleisio y gallwch eu penodi ond ni chaiff mwy na 4 fod yn bresennol mewn unrhyw orsaf bleidleisio benodol.   I benodi asiant pleidleisio swyddogol lawrlwythwch a dychwelwch y ffurflen hon erbyn 27 April 2022. 

 

Caniateir i asiantau pleidleisio fynychu gorsafoedd pleidleisio yn ystod oriau'r bleidlais i nodi unrhyw afreoleidd-dra neu i atal unrhyw ddynwared.  Ni ddylid drysu rhwng asiantau pleidleisio a "Rhifwyr" nad oes ganddynt unrhyw statws swyddogol o gwbl yn yr orsaf bleidleisio. 

 

Asiantau cyfrif

 

Gellir penodi 2 berson i weithredu fel asiantau cyfrif adeg cyfrif y pleidleisiau. I benodi asiant cyfrif swyddogol lawrlwythwch a dychwelwch y ffurflen (tudalen 2) hon erbyn 27 April 2022

 

Os yw priod/partner yr mgeisydd yn dymuno mynychu'r cyfrif, llenwch yr adran berthnasol yn ffurflen 2. 

 

Bydd pob ymgeisydd, asiant a phriod/partner ymgeisydd yn cael bandiau arddwrn, a fydd ar gael o swyddfa’r etholiad o Ddydd Mawrth 3 Mai 2022. Gellir eu casglu hefyd ar fore'r cyfrif, ond gall hyn achosi oedi cyn gallu mynd i mewn.  

 

Bydd bandiau arddwrn yn benodol i wardiau a bydd mynediad i ardal y cyfrif yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr a'u cefnogwyr yn ystod eu cyfrif a'u cyhoeddiad yn unig.  

 

Bydd y pleidleisiau post yn agor rhwng Dydd Gwener 22 Ebrill 2022 a Dydd Iau 5 Mai 2022. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cam 1 yn digwydd yn y bore, a Cham 2 yn ystod y prynhawn. 

 

Os hoffech ddod i unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, rhowch wybod i mi ymlaen llaw [email protected]   

 

 

 

Bydd Dilysu’r Blychau Pleidleisio yn dechrau am tua 9am Ddydd Gwener 6 Mai 2022, yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Bydd cyfrif y pleidleisiau yn dechrau'n syth wedi cwblhau'r broses o ddilysu blychau. 

 

Oherwydd wyneb y llawr, mae'n ofynnol i chi wisgo esgidiau/esgidiau ymarfer rwber (dim sodlau). 

 

Bydd te a choffi ar gael i'w prynu, a bydd dŵr yfed ar gael. 

 

           

 

Treuliau Etholiad 

 

Mae pecynnau Treuliau Etholiad ar gael o wefan y Comisiwn Etholiadol yn https://www.electoralcommission.org.uk/cy . Rhaid eu dychwelyd erbyn Dydd Iau 9 Mehefin 2022. 

 

Mae methu ag anfon dychweliad (hyd yn oed ddychweliad sy’n nodi 'Dim') neu ddatganiad o fewn yr amser rhagnodedig yn arfer llwgr. 

 

Y dyddiad sy'n ofynnol ar gyfer yr Hysbysiad Etholiad sydd i'w gynnwys ar y ffurflen dreuliau yw Dydd Llun 28 Mawrth 2022. 

 

Mae gwariant ar gyfer etholiadau seneddol wedi'i gyfyngu yn ôl y gyfraith ac mae'n £806 Ynghyd â 7c ar gyfer pob cofnod yn y Gofrestr Etholwyr ar gyfer yr ardal etholiadol briodol.  Mae'r cyfanswm hwn yn cael ei leihau ar gyfer ymgeisyddiaeth ar y cyd.

 

 

 

Gofyniad Cyfrinachedd 

 

Rhaid imi dynnu'ch sylw at ddarpariaethau Adran 66 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.  Atodir copi i'r llythyr hwn.

 

 

 

Cofrestr Etholwyr 

 

Mae gan ymgeiswyr neu asiantau etholiadol hawl i ofyn am un copi am ddim o'r Gofrestr Etholwyr ar gyfer yr ardal etholiadol briodol.

 

 

 

Rhifwyr 

 

Cytunodd asiantau'r pleidiau a chynrychiolwyr grwpiau i fabwysiadu canllaw ar gyfer ymddygiad rhifwyr. Gellir gweld canllawiau ar rifwyr ar wefan y Comisiwn Etholiadol, neu gall y swyddfa etholiadau ddarparu copi print ar gais.  Bydd holl staff yr Orsaf Bleidleisio hefyd yn cael copi o'r canllawiau.

 

 

 

Enw a Chyfeiriad y Cyhoeddwr a'r Argraffydd ar Gyhoeddiadau Etholiad 

 

Cofiwch fod yn rhaid argraffu enw a chyfeiriad y cyhoeddwr a'r argraffydd ar ddeunydd etholiadol fel posteri neu ddogfennau eraill sy'n cael eu harddangos neu eu dosbarthu er mwyn hyrwyddo'r etholiadau.   Gweler canllawiau'r Comisiwn Etholiadol am wybodaeth lawn. 

 

Mae'n arfer anghyfreithlon peidio â gwneud hyn.    Os bydd llys etholiadol yn canfod bod ymgeisydd yn bersonol euog neu'n euog yn sgil ei asiantau, gallai’r etholiad fod yn annilys.

 

 

 

Adduned Ymgyrch Deg 

 

Mae CLlLC wedi galw ar bob cynghorydd presennol ac ymgeiswyr i ymrwymo i ymgyrch etholiadol deg a pharchus, ac mae hyn wedi ennill cefnogaeth drawsbleidiol yng Nghasnewydd.

 

Mae holl arweinwyr y grwpiau ar Gyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi eu cefnogaeth i'r adduned. Mae rhagor o fanylion ar gael yma;

 

Datganiad ar y cyd gan y 22 arweinydd cyngor yng Nghymru: Ymgyrch etholiadol deg a pharchus 

 

 

Y Comisiwn Etholiadol: canllawiau ac adnoddau sydd eu hangen os ydych yn ymgeisydd neu asiant mewn etholiad lleol 

Y Comisiwn Etholiadol: ganllawiau ac adnoddau sydd eu hangen arnoch os ydych yn ymgeisydd mewn etholiad cyngor plwyf neu gymuned

Covid-19 lefel rhybudd 0: canllawiau ymgyrchu

Cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl

Dod yn gynghorydd