Sgiliau digidol a chynhwysiant

Byddwn yn datblygu sgiliau digidol ein dinasyddion, ein gweithwyr a'n haelodau ac yn cefnogi mynediad gwell i dechnoleg ddigidol.

Yr hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y 5 mlynedd nesaf i ddinasyddion a busnesau:

  • Gwell sgiliau digidol i ddinasyddion a busnesau. I wneud hyn byddwn yn: 
    • Cyflwyno rhaglen hyfforddi sgiliau digidol am ddim yn amrywio o lythrennedd digidol sylfaenol i gyfleoedd datblygu addysg bellach, gan weithio ar y cyd â phartneriaid yn cynnwys Cymunedau Digidol Cymru.
    • Cyfeirio dinasyddion a busnesau i gyfleoedd hyfforddi sydd ar gael iddynt
    • Gweithio mewn cydweithrediad â phartneriaid addysgol a chyflogwyr i sicrhau bod hyfforddiant digidol ar gael. 
  • Cynhwysiant digidol gwell drwy ddarparu mynediad i ddyfeisiau. I wneud hyn byddwn yn:
    • Cyflwyno cynllun benthyg cyfrifiaduron llechen yn y ddinas
    • Cefnogi’r defnydd o gyllid grant sy'n canolbwyntio ar y gymuned i ehangu mynediad i adnoddau digidol
    • Cefnogi ysgolion i gynnal nifer y dyfeisiau digidol a argymhellir gan yr awdurdod lleol fel bod gan ddysgwyr fynediad i’r dyfeisiau sydd eu hangen arnynt.
  • Cynhwysiant digidol gwell drwy ddarparu Wi-Fi cyhoeddus am ddim a chyfeirio i ddata am ddim sydd ar gael I wneud hyn byddwn yn:
    • Darparu Wi-Fi cyhoeddus mewn adeiladau cymunedol, canol y ddinas a bysiau
    • Gweithio gyda'r Gynghrair Tlodi Digidol i godi ymwybyddiaeth a chyfeirio i ddata am ddim. 
  • Cynhwysiant digidol gwell wedi'i sbarduno gan broffilio dealltwriaeth cwsmeriaid. I wneud hyn byddwn yn:
    • Gweithio ar y cyd â phartneriaid i fapio proffil cymunedol cymunedau ac ardaloedd sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol
    • Adolygu data demograffig allweddol i dargedu cymorth ar gyfer cynhwysiant digidol.
  • Gwasanaethau sydd wedi'u cydgysylltu ar draws partneriaid. I wneud hyn byddwn yn:
    • Gweithio ar y cyd â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru i gyflawni ein 6 addewid i ddileu allgau digidol
    • Rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwaith cynhwysiant digidol y mae CDC a phartneriaid yn ei wneud ledled y ddinas.