Trawsnewid Digidol
Byddwn yn trawsnewid gwasanaethau trwy’r defnydd arloesol o dechnoleg ddigidol sy’n effeithiol, yn hawdd i'w defnyddio ac wedi'i dylunio o amgylch anghenion defnyddwyr.
Yr hyn y byddwn yn ei gyflawni i ddinasyddion a busnesau dros y pum mlynedd nesaf:
- Gwasanaethau wedi'u trawsnewid drwy ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol. I wneud hyn byddwn yn:
- Mabwysiadu dull ‘Dewis Digidol’ i ysgogi trawsnewid yn y cyngor – mae gwasanaethau'n cael eu darparu'n ddigidol drwy ddyluniado
- Datblygu diwylliant o gydweithio ac arloesi yn y cyngor, gan groesawu, treialu a gweithredu technoleg newydd
- Cefnogi rhaglen Trawsnewid y cyngor sy'n croesawu technolegau digidol fel galluogwr allweddol
- Adolygu ac adlunio darparu gwasanaethau yng ngoleuni technolegau digidol newydd a phresennol
- Datblygu'r defnydd o awtomeiddio yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer Awtomeiddio Prosesau Robotig a Deallusrwydd Artiffisial
- Gweithio gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fel partner allweddol i gyflawni canlyniadau
- Atebion digidol sy'n arloesol, effeithiol a hawdd eu defnyddio. I wneud hyn byddwn yn:
- Mabwysiadu ffocws dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer darparu pob gwasanaeth
- Datblygu cyfleusterau hunanwasanaeth effeithiol a greddfol gan gynnwys system RhCC a chymhwysiad symudol “Fy Ngwasanaethau Cyngor”
- Ailddatblygu gwefan y cyngor i ddarparu model cynaliadwyedd
- Adolygu systemau TG mawr, eu haddasrwydd, profiad y cwsmer a'u cyfleusterau hunanwasanaeth yn barhaus.
- Datrysiadau digidol sydd ar gael 24x7 o unrhyw le. I wneud hyn byddwn yn:
- Datblygu cyfleusterau hunanwasanaeth effeithiol a greddfol gan gynnwys system RhCC a chymhwysiad symudol “Fy Ngwasanaethau Cyngor”
- Ailddatblygu gwefan y cyngor
- Cefnogi rhaglen Trawsnewid y cyngor sy'n croesawu technolegau digidol fel galluogwr allweddol
- Parhau i ddatblygu a chyflwyno rhaglen Normal Newydd y cyngor
- Cynyddu nifer y datrysiadau digidol a ddarperir drwy wasanaethau cwmwl i wella hygyrchedd, argaeledd, gwytnwch a chynaliadwyedd.
- Datrysiadau digidol sy'n bodloni dyluniad, hygyrchedd, y Gymraeg a safonau eraill. I wneud hyn byddwn yn:
- Gwella dyluniad a hygyrchedd systemau TG y cyngor gan gynnwys ei wefan
- Datblygu safonau o amgylch cyfleusterau hunanwasanaeth yn cynnwys system RhCC ac ap symudol "Fy Ngwasanaethau Cyngor"
- Gwella cyfleusterau Cymraeg systemau TG y cyngor gan gynnwys ei wefan
- Datblygu safonau digidol ar gyfer systemau TG mawr gan weithio gyda’r tîm Caffael a chwsmeriaid/defnyddwyr.
- Cyfraniad cadarnhaol i dargedau newid yn yr hinsawdd ac amgylcheddol gan gynnwys llai o deithio, gwastraff a defnydd ynni drwy ddefnyddio atebion digidol. I wneud hyn byddwn yn:
- Darparu datrysiadau technoleg sy'n lleihau'r angen i gwsmeriaid a staff deithio gan gynnwys cydweithio, cyfleusterau cyfarfod hybrid a chyfleusterau hunanwasanaeth
- Symud i atebion technoleg mwy effeithlon o ran ynni gan gynnwys canolfan ddata a darpariaeth cwmwl
- Gwneud y defnydd gorau o atebion digidol i leihau'r defnydd o bapur gan gynnwys digideiddio cofnodion papur
- Lleihau'r storio data i leihau gofynion seilwaith a lleihau'r defnydd o ynni
- Sefydlu egwyddorion arbed, ailddefnyddio, ailgylchu mewn polisïau ac arferion digidol.
- Gwefan y cyngor yw'r sianel a ffefrir gan gwsmeriaid, ynghyd ag ap y cyngor, cyfleusterau cyfrif cwsmeriaid a llwyfannau cyfathrebu digidol eraill fel y cyfryngau cymdeithasol. I wneud hyn byddwn yn:
- Mabwysiadu dull ‘Dewis Digidol’ o drawsnewid yn y cyngor – darperir gwasanaethau'n ddigidol drwy ddylunio
- Ailddatblygu gwefan y cyngor
- Mae gwybodaeth yn canolbwyntio ar y cwsmer, yn gywir, yn gyfredol ac yn gyson ar draws sianeli cyflenwi
- Hyrwyddo a chyfeirio preswylwyr yn weithredol at wasanaethau ar-lein ar bob cyfle
- Ehangu'r defnydd o lwyfannau cyfathrebu digidol fel y cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â dinasyddion a busnesau
- Datblygu cyfleusterau hunanwasanaeth effeithiol a greddfol gan gynnwys systemau RhCC ac ap symudol "Fy Ngwasanaethau Cyngor"
- Mynediad i sianeli sydd wedi'u cydgysylltu'n effeithiol, drwy roi dewis a chysondeb gwasanaeth. I wneud hyn byddwn yn:
- Sicrhau bod gwybodaeth yn canolbwyntio ar y cwsmer, yn gywir, yn gyfredol ac yn gyson ar draws sianeli darparu gan gynnwys cyfathrebiadau’r cyfryngau cymdeithasol
- Datblygu cyfleusterau hunanwasanaeth effeithiol a greddfol
- Ailddatblygu gwefan y cyngor
- Sicrhau bod systemau TG wedi'u hintegreiddio lle bynnag y bo modd i ddarparu gwybodaeth fwy cywir a lleihau ychwanegu data.