Seilwaith digidol a chysylltedd

Byddwn yn sbarduno seilwaith digidol a chysylltedd rhagorol ar gyfer y ddinas a'r cyngor.

Yr hyn y byddwn yn ei gyflawni i ddinasyddion a busnesau dros y 5 mlynedd nesaf:

• Cysylltedd ardderchog yn y ddinas. I wneud hyn byddwn yn:

    • Datblygu diwylliant sy'n cydnabod manteision seilwaith digidol i ddinasyddion a busnesau.
    • Gweithredu prosiect y Gronfa Band Eang Leol yng nghartrefi gofal preswyl y cyngor i oedolion.
    • Ceisiadau am gyllid ar gyfer datrysiadau i wella cysylltedd yn y ddinas lle mae cyfleoedd yn codi.
    • Darparu a datblygu Wi-Fi cyhoeddus mewn adeiladau cymunedol, canol y ddinas a bysiau.
    • Cefnogi a chymryd rhan yn natblygiadau seilwaith y ddinas mewn cydweithrediad â phartneriaid ar gyfer band eang, Wi-Fi a thelegyfathrebu symudol.
    • Manteisio ar seilwaith digidol canol y ddinas fel ffibr tywyll i weithredu fel catalydd ar gyfer datblygiadau digidol, mewnfuddsoddiad, adfywio a gweithgarwch economaidd. 

 

  • Casnewydd wedi’i sefydlu fel dinas ddata gyntaf Cymru. I wneud hyn byddwn yn:
    • Gweithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, busnesau, diwydiant a sefydliadau AB ac AU i gasglu, cynnal a thyfu ein galluoedd a'n cyfleoedd data, gan gynnwys cyflwyno Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yng Nghasnewydd.

 

  • Mae gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu darparu gan rwydweithiau cyflym a dibynadwy. I wneud hyn byddwn yn:
    • Parhau i adolygu darpariaeth y seilwaith digidol yn adeiladau'r cyngor.
    • Adolygu darpariaeth bresennol y Rhwydwaith Diogelwch Cymunedol
    • Sicrhau rheolaeth effeithiol o ganolfan ddata'r cyngor i wella cadernid.
    • Symud gwasanaethau rhwydwaith ffôn PSTN presennol i ddigidol.
    • Cynyddu nifer y datrysiadau digidol a ddarperir drwy wasanaethau cwmwl lle y bo’n bosibl i wella hygyrchedd, argaeledd, gwytnwch a chynaliadwyedd – “Cloud First”. 

 

  • Mae technoleg lle clyfar yn gwella'r ffordd y darperir gwasanaethau. I wneud hyn byddwn yn:
    • Datblygu diwylliant o gydweithio ac arloesi yn y cyngor, gan groesawu, treialu a gweithredu technoleg newydd.
    • Ystyried a gweithredu technolegau lle clyfar lle bo hynny'n briodol i gipio, defnyddio a chyhoeddi data priodol. 

 

  • Seilwaith digidol ar gyfer y ddinas yn cael ei ystyried yn adeiladau'r cyngor, cynllunio, seilwaith ffyrdd ac asedau. I wneud hyn byddwn yn:
    • Datblygu diwylliant sy'n cydnabod manteision seilwaith digidol i ddinasyddion a busnesau.
    • Adolygu'r ddarpariaeth seilwaith digidol yn asedau'r cyngor fel ffyrdd a dodrefn stryd.
    • Cefnogi a chymryd rhan yn natblygiadau seilwaith y ddinas mewn cydweithrediad â phartneriaid ar gyfer band eang, Wi-Fi a thelegyfathrebu symudol.