Data a Chydweithio
Byddwn yn gwella darpariaeth gwasanaethau trwy ddefnyddio data yn well a chynyddu cydweithio wedi'i seilio ar systemau a phrosesau diogel
Yr hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y 5 mlynedd nesaf i ddinasyddion a busnesau:
• Mae gan bobl hyder yn rheolaeth y cyngor o'u data. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Cynnal achrediad i safonau diogelwch gwybodaeth gan gynnwys rhwydwaith gwasanaethau cyhoeddus a safonau diogelwch data y diwydiant cardiau talu
- Cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a deddfwriaeth gwybodaeth arall
- Rheoli risgiau gwybodaeth drwy strwythurau llywodraethu a gweithgareddau priodol
- Darparu a monitro hyfforddiant ymwybyddiaeth defnyddwyr gan gynnwys e-ddysgu ar gyfer gweithwyr ac aelodau
- Gwella cadernid seiber drwy weithio gyda phartneriaid a grwpiau fel Pwynt Rhybudd, Cyngor ac Adrodd a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
- Sicrhau bod mesurau diogelwch technegol yn cael eu rheoli, drwy weithio gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir, partneriaid a chyflenwyr
- Sicrhau bod prosesau rheoli ansawdd data effeithiol yn cael eu gweithredu ar draws y sefydliad
• Rhennir data'n briodol i gefnogi gwaith partneriaeth a chydweithio i wella darpariaeth gwasanaethau. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a deddfwriaeth gwybodaeth arall i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n briodol
- Ffurfioli rhannu gwybodaeth drwy ddefnyddio fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru
- Sicrhau bod data'n cael ei rannu drwy ddefnyddio atebion diogel a phriodolo Datblygu defnydd y sefydliad o ddata fel ased ar y cyd â Chanolfan Wybodaeth Casnewydd
- Cynnal Asesiadau Effaith Diogelu Data lle bo hynny'n briodol
• Mae gwneud penderfyniadau, darparu gwasanaethau a chynllunio’n cael eu hwyluso drwy ddefnyddio data'n well. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Sicrhau bod gwasanaethau'n ymgysylltu'n llawn â'u data i ddatblygu dealltwriaeth well o ddinasyddion a busnesau ar gyfer trawsnewid a chanlyniadau gwell yn strategol, yn dactegol ac yn weithredol
- Datblygu defnydd y sefydliad o ddata fel ased ar y cyd â Chanolfan Wybodaeth Casnewydd
- Datblygu dealltwriaeth o ofynion gwasanaeth drwy ddadansoddi a dehongli cwynion, canmoliaeth ac adborth arall gan gwsmeriaid
- Sicrhau bod y buddion a wireddir yn cael eu cipio’n effeithiol
• Data a ddiogelir rhag ymosodiadau seiber a bygythiadau eraill. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Gwella cadernid seiber drwy weithio gyda phartneriaid a grwpiau fel Pwynt Rhybudd, Cyngor ac Adrodd a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
- Sicrhau bod mesurau diogelwch technegol yn cael eu rheoli, drwy weithio gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir, partneriaid a chyflenwyr
- Gweithredu Canolfan Gweithrediadau Diogelwch a system Rheoli Gwybodaeth a Digwyddiadau Diogelwch
- Sicrhau rheolaeth effeithiol o ganolfan ddata'r cyngor i wella cadernid
- Profi prosesau seiberddiogelwch ac adfer trychinebau
- Rheoli risgiau gwybodaeth drwy strwythurau llywodraethu priodol a gweithgareddau gan gynnwys rheoli i leihau effeithiau
- Darparu a monitro hyfforddiant ymwybyddiaeth defnyddwyr gan gynnwys e-ddysgu ar gyfer gweithwyr ac aelodau
• Cefnogir ysgolion i reoli gwybodaeth yn gadarn, cadernid seiber a diogelwch gwybodaeth. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Parhau i ddatblygu dull strategol ar gyfer TGCh ysgolion
- Darparu Cytundeb Lefel Gwasanaeth i ysgolion ar gyfer gwasanaeth rheoli gwybodaeth
- Sicrhau bod mesurau diogelwch technegol yn cael eu rheoli, drwy weithio gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir, partneriaid a chyflenwyr
- Galluogi ysgolion i gael hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi eu cadernid seiber a diogelwch gwybodaeth. Gweithredu Canolfan Gweithrediadau Diogelwch a system Rheoli Gwybodaeth a Digwyddiadau Diogelwch
• Parhad busnes gwell drwy ddatrysiadau digidol sy'n gadarn ac ar gael yn rhwydd. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Sicrhau rheolaeth effeithiol o ganolfan ddata'r cyngor i wella cadernid o Cefnogi datblygiad cynlluniau parhad busnes
- Cynyddu nifer y datrysiadau digidol a ddarperir drwy wasanaethau cwmwl lle y bo’n bosibl i wella hygyrchedd, argaeledd, gwytnwch a chynaliadwyedd – “Cloud First”
- Sicrhau bod mesurau diogelwch technegol yn cael eu rheoli, drwy weithio gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir, partneriaid a chyflenwyr
- Profi prosesau seiberddiogelwch ac adfer trychinebau
- Sicrhau bod gwasanaethau cwmwl yn bodloni egwyddorion diogelwch cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
• Mae data o atebion digidol fel technoleg synhwyrydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at newid yn yr hinsawdd a thargedau amgylcheddol. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Ymchwilio a threialu datrysiadau priodol i fesur effaith mesurau lliniaru hinsawdd ac addasu i'r hinsawdd
- Ystyried cyhoeddi data amgylcheddol perthnasol ac wedi'i ddilysu
- Cymharu data digidol â dulliau confensiynol o gipio data i nodi achosion busnes addas ar gyfer defnyddio technolegau synhwyrydd
• Mae gwybodaeth gyfredol ac ystyrlon ar gael i ddinasyddion, busnesau ac ati. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Sicrhau diwylliant sy'n cydnabod pwysigrwydd cynnal gwybodaeth gywir, berthnasol a chyfredol i'r cyhoedd
- Sicrhau bod gwefan y cyngor a sianeli cyfathrebu digidol eraill yn gyfredol ac yn gyson
- Datblygu cyfleusterau hunanwasanaeth effeithiol a greddfol
- Parhau i ddatblygu a defnyddio porth mapio ar-lein a'i ddata cysylltiedig
• Gwell tryloywder gyda data'r cyngor sydd ar gael sy'n hwyluso'r defnydd o ddata er budd y cyhoedd mewn fformat agored lle bo hynny'n bosibl. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Sicrhau bod gwasanaethau'n ymgysylltu'n llawn â'u data i ddatblygu dealltwriaeth well o ddinasyddion a busnesau ar gyfer trawsnewid a chanlyniadau gwell yn strategol, yn dactegol ac yn weithredol
- Datblygu defnydd y sefydliad o ddata fel ased drwy Ganolfan Wybodaeth Casnewydd
- Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth a cheisiadau cysylltiedig eu prosesu'n effeithiol
- Byddwn yn parhau i gyhoeddi data ar fformat agored yn www.newport.gov.uk/transparency
• Dangos ymrwymiad sefydliadol i brosesu ceisiadau cwsmeriaid am wybodaeth fel rhyddid gwybodaeth a cheisiadau gwrthrych am wybodaeth. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Cyrraedd targedau perfformiad ar gyfer Rhyddid Gwybodaeth, Mynediad Gwrthrych a cheisiadau gwybodaeth eraill
• Gwell dealltwriaeth o'r ddinas, ei dinasyddion a'i busnesau o ganlyniad i broffilio dealltwriaeth, cyfrifiad a ffynonellau data eraill. I wneud hyn byddwn yn:
-
- Dadansoddi rhyngweithiadau gwasanaeth, dadansoddiadau tueddiadau rhagfynegol a defnydd o’r Cyfrifiad a data arall i sicrhau ein bod yn targedu ac yn ymateb yn unol ag anghenion.