Ynglŷn â'r Strategaeth Ddigidol
Dyma ail strategaeth ddigidol y cyngor, a ddatblygwyd ar adeg pan mae technoleg ddigidol yn gynyddol bwysig i ddarparu gwasanaethau.
O ganlyniad i bandemig Covid-19, rydym wedi gweld rhai o'r newidiadau mwyaf mewn cymdeithas o ran sut mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus drwy dechnoleg ddigidol.
Mae'r strategaeth hon yn dangos ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i wneud Casnewydd yn ddinas uchelgeisiol a thecach i'w phreswylwyr a'i busnesau.
Mae'r strategaeth hefyd yn hanfodol i wneud Casnewydd yn ddinas ddata. Dyna pam rydym am sicrhau y gall dinasyddion gael mynediad at wasanaethau digidol, a ddarperir gan y cyngor a'i bartneriaid strategol, pan fyddant ei angen fwyaf.
Mae Strategaeth Ddigidol 2022-2027 yn nodi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer:
- sut y bydd yn defnyddio technoleg i drawsnewid darpariaeth gwasanaethau;
- cefnogi gwelliant lles preswylwyr;
- gwella sgiliau digidol ei drigolion;
- galluogi busnesau i ffynnu yng Nghasnewydd; a
- cefnogi cyflawniad ein hamcanion lles - fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2022-2027.
Ein prif egwyddorion ar gyfer y strategaeth hon yw:
- Canolbwyntio ar y defnyddiwr – mae defnyddwyr yn ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud
- Cynhwysol - mae gwasanaethau ar gael i ddiwallu anghenion unigol
- Arloesol – croesawu ffyrdd newydd o weithio a thechnoleg
- Wedi ei sbarduno gan ddata - penderfyniadau yn cael eu gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn
- Cydweithredol - cydweithio yn fewnol ac yn allanol
- Diogel – systemau a data yn cael eu diogelu
- Gwyrdd – mae technoleg ddigidol yn cefnogi mentrau gwyrdd cadarnhaol.
Lawrlwythwch y fersiwn lawn o'n Strategaeth Ddigidol (pdf).