Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn weithgaredd sy'n cynnwys treulio amser, di-dâl, sydd o fudd i'r gymuned rydyn ni'n byw ynddi a'n defnyddwyr gwasanaeth. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws y cyngor - o'n cartrefi gofal i gadwraeth cefn gwlad. Gallwch ddewis gwneud cyn lleied ag ychydig oriau'r wythnos a ffitio'r rhain o amgylch eich ymrwymiadau presennol.
Yn gyfnewid am eich amser, byddwch yn elwa ar brofiadau gwerthfawr, yn dysgu sgiliau newydd, a hefyd yn cael ymdeimlad o falchder a boddhad o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wnaed gan wirfoddolwyr ac mae wedi ymrwymo i'w cynnwys, lle bo hynny'n briodol, i ganmol y gwaith o ddarparu ei wasanaethau.
Am gyfleoedd gwirfoddoli eraill e-bostiwch human.resources@newport.gov.uk