Gweithio i'r cyngor

Armed Forces Covennt and Disability logo Welsh

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awdurdod unedol un haen sy'n gyfrifol am weinyddu pob maes ar lywodraeth leol.

Ffurfiwyd y cyngor fel bwrdeistref sirol ym 1996 a chafodd statws dinas yn 2002.

Dyma'r wythfed cyngor mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu'r holl brif wasanaethau megis addysg, hamdden, tai, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio a phriffyrdd.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn lle gwych i weithio ac yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad rydym yn cynnig telerau ac amodau a manteision deniadol. 

Rydym yn angerddol am gydraddoldeb, rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein staff, ac yn cefnogi diwylliant cynhwysol sy'n caniatáu i bawb ddod â'u hunain dilys i'r gwaith. I'n helpu i wneud hyn, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff sy'n darparu lle diogel i gydweithwyr rannu profiadau, derbyn a chynnig cefnogaeth gan gymheiriaid, a helpu i lunio ein polisïau yn y gweithle.

Oriau gwaith

Yr oriau gwaith arferol yw 37 yr wythnos, ond bydd swyddi Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth yn gofyn am ryw elfen o oriau anghymdeithasol wrth gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd. Mae’r raddfa gyflog ar gyfer y penodiad yn adlewyrchu’r angen i weithio yn ychwanegol ac y tu hwnt i oriau swyddfa arferol.

Gwyliau blynyddol

  • hyd at bum mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol parhaus: 26 diwrnod
  • rhwng pum a deng mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol parhaus: 30 diwrnod
  • dros ddeng mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol parhaus: 33 diwrnod
  • mae gweithwyr rhan-amser yn cael gwyliau blynyddol ar sail pro rata

Mae’r opsiwn i brynu hyd at wythnos o wyliau blynyddol ychwanegol hefyd ar gael.

Gwyliau Banc

  • 8 o wyliau banc
  • mae cyflogeion rhan amser yn cael gwyliau banc ar sail pro-rata

Gwasanaeth parhaus

Mae’r cyfnod o wasanaeth parhaus ar gyfer hawliau cyflogaeth statudol yn dyddio o'r dyddiad y dechreuodd eich cyflogaeth gyda’r cyngor hwn.

Os oes gan gyflogai wasanaeth di-dor blaenorol gyda sefydliad a gwmpesir gan Orchymyn Addasu Taliadau Diswyddo (Parhad Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol) 1999 (yn agor gwefan newydd) caiff hyn ei gynnwys wrth gyfrifo'r hawl i:

  • wyliau blynyddol
  • cynllun salwch galwedigaethol
  • cynllun mamolaeth galwedigaethol
  • cynllun cymorth mamolaeth
  • absenoldeb mabwysiadu
  • taliad dileu swyddi

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Bydd cyflogeion yn cael eu cofrestru'n awtomatig yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Gallwch optio allan os dymunwch.

Cynllun Salwch Galwedigaethol

  • Blwyddyn 1af o wasanaeth = 1 mis o gyflog llawn ac (ar ôl cwblhau gwasanaeth 4 mis), 2 fis hanner cyflog
  • Ail flwyddyn o wasanaeth = 2 fis ar dâl llawn a 2 fis ar hanner tâl
  • Trydedd blwyddyn o wasanaeth = 4 mis ar dâl llawn a 4 mis ar hanner tâl
  • Pedwaredd a pumed blwyddyn o wasanaeth =  5 mis ar dâl llawn a 5 mis ar hanner tâl
  • Wedi 5 mlynedd o wasanaeth =  6 mis ar dâl llawn a 6 mis ar hanner tâl

Absenoldeb mamolaeth / Absenoldeb mabwysiadu/ Absenoldeb rhiant a rennir

Hyd at 26 wythnos o dâl (cyfuniad o alwedigaethol a statudol) gyda 26 wythnos ychwanegol o absenoldeb di-dâl ac amser i fynychu clinig cynenedigol. 

Cydbwysedd gwaith a bywyd

Mae polisïau ategol yn cynnwys absenoldeb mamolaeth a tadolaeth, amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion, gostyngiad gwirfoddol mewn oriau gwaith, yr hawl i wneud cais i weithio'n hyblyg, absenoldeb rhiant, rhannu swydd.   Mae'r polisi hwn hefyd yn cael ei adolygu gan ymateb i'r angen pellach am hyblygrwydd yn ystod pandemig Covid-19.

Teithio a chynhaliaeth

Gellir gwneud hawliadau teithio a chynhaliaeth.

Buddion Cyflogeion

Cerdyn Vectis

Mae'r cyngor yn darparu cerdyn Vectis i weithwyr sy'n rhoi gostyngiadau gan fanwerthwyr ar y stryd fawr ac ar-lein.

Cynllun prydlesu ceir

Darperir cynllun prydlesu i gyflogeion drwy Tusker sy'n galluogi prydlesu ceir drwy ddidynnu cyflog misol.

Aelodaeth hamdden am bris gostyngol

Gall gweithwyr gofrestru ar gyfer cerdyn hamdden aelodaeth misol am gyfradd ddisgownt sy'n caniatáu defnydd diderfyn i gyflogeion o ystafelloedd ffitrwydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd ac ystafell iechyd, yn ogystal â mynediad i gynllun hyfforddi personol, gwiriad colesterol ac asesiad iechyd.

 

Cynlluniau aberthu cyflog

Mae'r cyngor yn gweithredu cynllun beicio i'r gwaith a chynllun technoleg. 

Cymorth dysgu a datblygu

Gall gweithwyr fanteisio ar fframweithiau dysgu, datblygu a hyfforddi'r cyngor a gellir darparu cymorth i staff i ddatblygu eu sgiliau, eu profiadau a'u cymwysterau. 

Rhaglen cymorth i gyflogeion

Mynediad am ddim i linell gynghori a chymorth cyfrinachol 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gellir darparu gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â materion teuluol, personol, dyled a gweithle a hynny dros y ffôn neu ar-lein. Mae gwasanaeth cwnsela cynhwysfawr ar gael hefyd.

Profion golwg am ddim

Mae profion llygaid a golwg am ddim ar gael i unrhyw weithiwr sy'n defnyddio offer sgrin arddangos fel rhan sylweddol o'u gwaith arferol.