Gweledigaeth a blaenoriaethau

Mae Cynllun Corfforaethol 2022-27 (pdf) Cyngor Dinas Casnewydd yn nodi cyfeiriad strategol y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf. 

Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn cefnogi saith Nod Lles Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau strategol y Cyngor am y 5 mlynedd nesaf. 

Pedwar amcan lles Cyngor Casnewydd yw:

  1. Economi, Addysg a Sgiliau - Mae Casnewydd yn ddinas lewyrchus sy'n tyfu, sy'n cynnig addysg ragorol ac sy’n dyheu am greu cyfleoedd i bawb. 
  2. Amgylchedd a Seilwaith Casnewydd - Dinas sy'n ceisio amddiffyn a gwella ein hamgylchedd tra’n lleihau ein hôl-troed carbon a pharatoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy a digidol. 
  3. Cymuned a Gofal Cymdeithasol Ataliol a Theg - Mae Casnewydd yn ddinas gefnogol lle mae cymunedau a gofal wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud.
  4. Cyngor Cynhwysol, Teg a Chynaliadwy - Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn sefydliad cynhwysol y mae gwerth cymdeithasol, tegwch, a chynaliadwyedd wrth ei wraidd. 

Cefnogir pob Amcan Lles gan sawl Blaenoriaeth Strategol (Camau).  Mae Cynllun Trawsnewid y Cyngor yn nodi rhaglenni a phrosiectau allweddol y Cyngor a fydd yn cefnogi cyflawni'r Cynllun Corfforaethol, ac yn gwella'r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau i drigolion, busnesau, a rhanddeiliaid eraill. 

Mae pob gwasanaeth yn y Cyngor wedi datblygu eu cynllun gwasanaeth a fydd yn cefnogi ac yn cyfrannu tuag at gyflawni'r amcanion hyn. 

Er mwyn cyflawni'r Cynllun Corfforaethol, mae'r Cyngor wedi datblygu pedair egwyddor y bydd yn disgwyl i'r holl swyddogion eu cefnogi ac iddynt gael eu hystyried pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud:

  1. Teg a chynhwysol – Byddwn ni'n gweithio i greu cyfleoedd tecach, lleihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau ac annog ymdeimlad o berthyn.
  2. Grymuso ei gilydd - Byddwn yn gweithio gyda chymunedau, grwpiau, a phartneriaid ac yn eu cefnogi i ffynnu.
  3. Cyngor sy’n Gwrando - Bydd barn cymunedau, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid yn siapio'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu a'r llefydd rydych chi'n byw ynddyn nhw.
  4. Gwerthoedd Casnewydd - Bydd pawb sy'n gweithio ac yn cynrychioli Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi'r dinesydd yn gyntaf, gan ganolbwyntio ar ein gwerthoedd sefydliadol craidd.

Mae gan y Cyngor sawl dogfen strategol sy'n cefnogi ac yn galluogi cyflwyno'r Cynllun Corfforaethol. Mae dolenni i'r rhain i'w gweld ar ein tudalen cynlluniau a pholisïau corfforaethol.