Ein dinas

PANO0003

Mae Casnewydd yn cwmpasu ardal o ychydig dros 73.5 milltir sgwâr ac yn sefyll wrth y porth rhwng Cymru a Lloegr.

Mae Casnewydd yn ddinas amlddiwylliannol, fywiog yn llawn treftadaeth ddiwydiannol, lle mae diwydiannau traddodiadol yn bodoli ochr yn ochr â sectorau electronig a gwasanaethau ariannol newydd.

Mae lleoliad Casnewydd ar aber Afon Wysg wedi denu ymwelwyr ers y sefydlwyr Celtaidd cyntaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Caerllion oedd y safle a ddewiswyd ar gyfer caer lleng Rufeinig strategol o ran olaf y ganrif gyntaf OC a setlodd y Normaniaid yn y dref hefyd ac adeiladu castell yn y 12fed ganrif, y gellir gweld ei olion hyd heddiw.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 19eg ganrif, tyfodd Casnewydd ac ehangu’n gyflym o fod yn dref porthladd fechan i fod yn un o’r lleoedd pwysicaf yn y wlad o ran allforio glo a chynhyrchu dur.

Mae rhaglen drawsnewid uchelgeisiol wedi golygu ein bod eisoes yn esblygu o ddiwydiannau traddodiadol i fod yn ganolbwynt ar gyfer rhagoriaeth sy'n ffocysu ar dechnoleg. Mae ein cynlluniau adfywio yn creu canol dinas 24/7 gyda chymysgedd cynaliadwy o fannau preswyl, manwerthu, busnes a hamdden.

Ein cymunedau

Mae poblogaeth bresennol Casnewydd dros 150,000, gyda'r ddinas wedi'i rhannu'n 20 ward.

Ein poblogaeth yw:

- 0 i 15 oed:  20.5% (Cymru: 17.9%)

- Dros 65 oed:  17.3% (Cymru: 20.8%)

Rydym yn ddinas sy'n falch o'n treftadaeth ddiwylliannol amrywiol a chyfoethog. Mae ein cymunedau'n amlieithog ac amlddiwylliannol, gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cynrychioli dros 40% o boblogaethau rhai o’n wardiau.

Mae proffiliau lles cymunedol Casnewydd yn darparu gwybodaeth am Gasnewydd, ei phobl, ei chymunedau a'u hanghenion. Mae'r proffiliau'n rhoi trosolwg o'r boblogaeth gan ddefnyddio data gan gynnwys poblogaeth, amrywiaeth, aelwydydd, iechyd, addysg, tai, budd-daliadau a lefelau amddifadedd.

Dinas gysylltiedig

Mae Casnewydd yn elwa ar gysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd, môr ac awyr ardderchog sy’n ei gwneud yn lleoliad busnes a buddsoddi delfrydol. Mae Llundain 90 munud i ffwrdd yn unig ar y trên a 120 munud mewn car.

Bydd trydaneiddio'n lleihau amseroedd teithio ar y rheilffyrdd ac mae dileu tollau Pont Hafren wedi gwella teithiau ffordd yn fawr.

Mae Casnewydd hefyd yn gwireddu ei huchelgais i fod yn hyb digidol cenedlaethol drwy fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd yn ei chysylltiadau band eang a digidol.

Adfywio

Mae Casnewydd yn rhan o un o raglenni adfywio mwyaf y DU. Mae'r prosiectau hyd yma wedi trawsnewid Casnewydd yn aruthrol gan greu cyfleoedd busnes sylweddol a lleoli'r ddinas fel un o brif ganolfannau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae arweinwyr rhyngwladol ym meysydd technoleg, gweithgynhyrchu, dosbarthu, gwasanaethau ariannol a sefydliadau’r sector cyhoeddus yma, wedi eu denu gan leoliad arbennig y ddinas, a’i gweithlu mawr gan gynnwys Admiral, Gocompare.com, Airbus, Next Generation Data, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Swyddfa Eiddo Deallusol. Darllenwch fwy am y cwmnïau sydd wedi gwneud Casnewydd yn gartref iddynt.

Digwyddiadau Mawr

Mae Casnewydd yn falch o’r seilwaith a’r egni sydd ganddi i gynnal digwyddiadau rhyngwladol o broffil uchel iawn. Rydym eisoes wedi cynnal Cwpan Ryder 2010 ac Uwchgynhadledd NATO 2014. Rydym hefyd yn cynnal Marathon ABP Casnewydd Cymru ac wedi croesawu Gemau Trawsblaniad Prydain a Thaith Prydain. Rydym hefyd yn ehangu ein rhaglen ddigwyddiadau lleol gan gynnwys Gŵyl Fwyd boblogaidd Casnewydd.

Rydym bellach yn gartref i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru; lleoliad trawiadol wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer confensiynau, digwyddiadau a chyfarfodydd o'r radd flaenaf.

Bywyd yng Nghasnewydd

Mae Casnewydd yn cynnig ansawdd bywyd ardderchog gydag ysgolion poblogaidd, cefn gwlad prydferth a darpariaeth chwaraeon ac adloniant fywiog.  Yn berffaith ar gyfer cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn ar hyd arfordir y ddinas, gan fynd trwy Warchodfa Natur Gwlyptiroedd nodedig yr RSPB.

Mae Dyffryn Wysg, Dyffryn Gwy, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oll ar drothwy’r ddinas, gan gynnig harddwch naturiol syfrdanol a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

Mae ein cyfleusterau chwaraeon o'r safon uchaf – yn darparu ar gyfer ffitrwydd, chwaraeon llawr gwlad ac elît.

Mae Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd yn cynnwys Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, pwll nofio, campfa, canolfan tenis dan do a stadiwm pêl-droed ac athletau. Mae chwaraewyr a hyfforddwyr pêl-droed gorau Cymru ynghyd â phobl ifanc frwd yn hogi eu sgiliau yn y Ganolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol.

Un o'n rhaglenni adfywio byw yw datblygiad o'r radd flaenaf gwerth £20 miliwn a fydd yn gwella mynediad i hamdden yng nghanol ein dinas.

Mae Rodney Parade, cartref Dreigiau Gwent, Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd a Chlwb Rygbi Casnewydd yng nghanol y ddinas, a gallwch fwynhau perfformiadau theatr a dawns proffesiynol, arddangosfeydd, gweithdai a dosbarthiadau yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.

Dysgwch fwy am yr hyn sydd gan y ddinas i'w gynnig.  

Dinas sy’n Dysgu

Mae buddsoddiad mewn addysg, sgiliau a mentergarwch wedi bod wrth wraidd adfywiad Casnewydd. Mae gennym bellach gampws prifysgol o safon yng nghanol y ddinas sy’n rhan o Brifysgol De Cymru.

Mae’r brifysgol yn rhan allweddol o dwf economaidd de-ddwyrain Cymru. Mae’n bartner pwysig i Lywodraeth y DU, diwydiant, Llywodraeth Cymru ac ystod eang o fusnesau. Un o gryfderau mawr y Brifysgol yw rhoi addysg sy’n berthnasol i ddiwydiant ac ymchwil sy’n berthnasol i fywyd bob dydd.

Mae cynlluniau hefyd i ddod â'n coleg addysg bellach, un o'r rhai sy'n perfformio orau yng Nghymru, i ganol y ddinas.

Agorodd pedwaredd ysgol Gymraeg Casnewydd ym mis Medi, gan fynd â chyfanswm ein hysgolion i 57.

Dysgwch fwy am addysg yng Nghasnewydd.