Neges gan yr Prif Weithredwr

Beverly Owen, Prif Weithredwr

Mae Casnewydd yn lle cyffrous i weithio. Os oes gennych frwdfrydedd, ymrwymiad a dewrder, yna byddwn yn croesawu eich cais i ddod yn rhan o'n huwch dîm. Mae dau air wrth wraidd ein holl weithgarwch – gwelliant a chyfle – a bydd ein strwythur newydd yn allweddol i gyflawni yn erbyn ein nod o ddarparu Casnewydd uchelgeisiol, decach a gwyrddach i bawb.

Yn ogystal â bod yn gam nesaf yn eich gyrfa ac yn gyfle i ymuno â chyngor dinas ffyniannus, mae hyn yn gyfle i lunio dyfodol Casnewydd. Nid oes gennym ddiddordeb mewn sefyll yn llonydd ac os nad ydych am gael her, nid yw'r rolau hyn yn addas i chi.

Nid ydym yn fodlon ar fod yn gyngor da yn unig, felly mae arnom angen pobl sy'n ymdrechu'n gyson i gael rhagoriaeth. Bydd angen empathi, gwydnwch ac ymwybyddiaeth wleidyddol arnoch.

Mae Casnewydd yn ddinas amrywiol a bywiog gydag uchelgeisiau sylweddol ar gyfer twf. Mae gennym amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni, sy'n dod â symiau sylweddol o arian datblygu i’r ddinas. Ac mae gennym uchelgeisiau mawr fel canolfan ar gyfer rhagoriaeth sy’n canolbwyntio ar dechnoleg, seiber a data.

Mae agweddau dinesig, gwledig ac arfordirol i Gasnewydd ac mae ganddi gysylltiadau da iawn â'r M4. Saif yr orsaf ganolog ar brif reilffordd De Cymru, gan ddod â llawer o gyfleoedd i ni hefyd. Ein porthladd yw prif borthladd cargo cyffredinol Cymru sy'n trin rhyw £1 biliwn o fasnach y flwyddyn. Ni yw canolfan fasnachol Cymru.

Mae gan Gasnewydd ei heriau, yn union fel pob dinas arall, ond mae nifer anferthol o bethau cadarnhaol yn digwydd.

Mae'r penderfyniad i ailstrwythuro a'r drefn a ddeilliodd o hwnnw yn adlewyrchu'r hyn rydym wedi'i ddysgu yn ein hymateb i'r pandemig. Buom yn cyd-dynnu fel sefydliad, ac rwyf am i hynny gael ei harneisio a'i ddatblygu ymhellach. Mae'n gyfle unwaith mewn oes i gydio yn hynny a datblygu sefydliad newydd.

Rydym hefyd am greu sefydliad wedi'i adfywio sy'n lle gwych i weithio, lle mae pobl yn edrych ymlaen at bob dydd, lle maent am wneud eu gorau glas ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Rydym am fod yn sicr bod pob aelod o staff yn deall rôl gwasanaeth cyhoeddus a'i ran ynddo – rhywbeth sydd, yn fy marn i, wedi mynd ar goll mewn llywodraeth leol dros y blynyddoedd gan fod cynghorau wedi gorfod troi eu ffocws yn fwy at yr ochr fasnachol.

Yn bennaf oll, rydym yma i wasanaethu pobl Casnewydd.