Ynglŷn â'r tîm

Meet the team

Mae hwn yn gyfnod cyffrous yng Nghasnewydd – i'r ddinas ei hun ac i'r cyngor wrth iddi geisio datblygu ei huwch strwythur i gefnogi newid eang ac uchelgeisiol.

Mae strwythur prif swyddogion Cyngor Dinas Casnewydd wedi'i adnewyddu a'i gytuno'n ddiweddar gan y Cyngor llawn. Mae nifer o swyddi gwag bellach ar gael yn dilyn creu rolau newydd, ymddeoliad deiliaid swyddi presennol a chynnydd talent fewnol. 

Mae ein cyfarwyddwyr a'n penaethiaid gwasanaeth yn gweithredu mewn strwythur rheoli unedig sy'n cynnig cyfrifoldeb am feysydd cyflawni allweddol, ond maent hefyd yn cefnogi ffocws ar draws y portffolios, gan sicrhau bod y cyngor yn perfformio hyd eithaf ei allu yn gyffredinol.

Gyda’r etholiadau Llywodraeth Leol Cymru diweddar, mae hefyd yn gyfle amserol i dîm newydd o brif swyddogion gefnogi gweledigaeth y grŵp gwleidyddol penodedig. Bydd hyn yn cynnwys datblygu Cynllun Corfforaethol newydd a strategaethau rhyng-gysylltiedig sy'n canolbwyntio ar feysydd fel pobl a diwylliant.

Rydym yn darparu dros 800 o wahanol wasanaethau i dros 150,000 o drigolion.

Mae 51 o gynghorwyr yn cynrychioli amrywiaeth o grwpiau gwleidyddol. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awdurdod Llafur ar hyn o bryd.

Mae gennym weithlu ymroddedig o tua 6,000 dan arweiniad y Prif Weithredwr, Beverly Owen gyda chefnogaeth tri Chyfarwyddwr Strategol, 11 Pennaeth Gwasanaeth a thua 40 o uwch reolwyr.  

Gweld y strwythur uwch reolwyr (pdf)

Rydym yn falch o barhau â hanes cryf o ddatblygu ein gweithlu drwy feithrin a datblygu ein talent ar gyfer cyfleoedd mewnol, tra hefyd yn parhau i ddenu'r dalent orau yn allanol, gan sicrhau bod gennym y cydbwysedd cywir o sgiliau a galluoedd yn ein gweithlu. 

Mae gan ein haen prif swyddogion bresennol raniad 70/30 o menywod a dinion, ac rydym yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithle gyda nifer o fforymau gweithwyr wedi'u creu i gefnogi'r agenda hon.

Mae ein dadansoddiad o'r gweithlu, fel llawer o awdurdodau lleol, yn rhaniad 70/30 o blaid menywod gyda'n bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn llai na 1%. Rydym yn parhau â'n hymrwymiad i dalu o leiaf y cyflog byw sylfaenol i'n staff. 

Ein pobl yw ein hased mwyaf gwerthfawr.  Heb y cyfraniad y mae ein cydweithwyr yn ei wneud, ni fyddem yn gallu gweithredu ac ni fyddem yn gallu cyflawni ein canlyniadau i'n cymunedau.  Mae arolygon staff wedi dangos bod staff yn ymgysylltu ac yn llawn cymhelliant ac mae arolygiadau statudol rheolaidd diweddar gan bartneriaid allanol wedi nodi "ymrwymiad a brwdfrydedd ymhlith staff a dyfalbarhad mewn ymdrechion i feithrin cydberthnasau ac ymgysylltu â'n cymunedau".

Dolenni

Cynllun Corfforaethol

Amcanion Lles

Aelodau Etholedig y Cyngor

Adroddiad Cyflog y Rhywiau

Cynllun Datblygu Lleol

Y Gyllideb ar Hyn o Bryd

Cynlluniau a Pholisïau