Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ganolog i'r System Cyfiawnder Ieuenctid.

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd gyda'r bwriad o leihau'r risg y bydd pobl ifanc yn troseddu ac ail-droseddu, ac i ddarparu cyngor ac adferiad i'r rheini sydd yn troseddu.

Mae timau troseddau ieuenctid yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o waith gyda throseddwyr ifanc rhwng 10 ac 17 oeder mwyn i geisio cyflawni eu hamcanion. 

Yn lleol, mae'r gwasanaeth yn dod a staff o ystod eang o sefydliadau at ei gilydd gan gynnwys yr awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd a gweithwyr prosiect arbenigol.

Drwy weithio gyda'i gilydd, rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, eu nod yw helpu pobl ifanc i wneud y dewisiadau bywyd cywir a lleihau troseddau ieuenctid.

Cysylltwch ar wasanaeth cyfiawnder ieuenctid dros y ffon ar 01633 414800 neu drwy e-bost [email protected]