Canolfan hamdden newydd a champws Coleg Gwent

ARTIST IMPRESSION of Coleg Gwent city centre campus


Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Ionawr 2021

Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno y dylid creu canolfan hamdden a lles newydd yng nghanol y ddinas.

Mae'r cytundeb i fwrw 'mlaen â'r ganolfan hamdden a lles newydd yn amodol ar gael yr holl ganiatâd angenrheidiol.

Bydd y gost o £19.7 miliwn yn cael ei thalu drwy gyfuniad o gyllid y cyngor, arbediad yn y cymhorthdal sy'n cael ei dalu i Casnewydd Fyw a grant gan Lywodraeth Cymru (yn amodol ar gymeradwyaeth).

Bydd safle presennol Canolfan Casnewydd yn cael ei waredu drwy brydles ddatblygu 250 mlynedd, ar werth y farchnad, yn amodol ar gytuno ar delerau ac amodau.


 

Byddai’r ganolfan hamdden newydd yn cynnwys pwll, stiwdio ffitrwydd ac ardaloedd iechyd a lles yn ogystal â chyfleusterau newid modern a chaffi.

Bwriedir lleoli’r ganolfan fodern newydd ar safle tir llwyd allweddol ar lan yr afon

Byddai hyn yn galluogi Coleg Gwent i ddefnyddio safle gwag Canolfan Casnewydd ar gyfer campws addysg bellach gwerth £90m gan greu Ardal Wybodaeth Casnewydd a dod â channoedd o fyfyrwyr a staff i ganol y ddinas

Bydd y ganolfan hamdden newydd yn cael ei hadeiladu at safonau rhagorol BREEAM, gyda chynaliadwyedd a diogelu at y dyfodol yn egwyddorion craidd. Ynghyd â'r campws newydd, gwelliannau i Usk Way a'r cysylltedd teithio llesol, bydd hyn yn creu lle o ansawdd uchel a man ysgyfaint gwyrdd.

 

Mae dau gynllun arfaethedig:

Gweld cynlluniau opsiwn 1 (pdf)

Gweld cynlluniau opsiwn 2 (pdf)

Fel arall, gallwch argraffu a chwblhau'r arolwg ymgynghori (pdf)

Gweld Datganiad o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)

Gweld Adroddiad y Cabinet

 TRA130196