Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw ganmoliaethau, sylwadau neu gwynion sydd gennych am y gwasanaethau a gynigiwn.   

Rydym yn ystyried eich pryderon a'ch cwynion o ddifrif ac yn ceisio dysgu o unrhyw gamgymeriadau rydym wedi'u gwneud. Mae crynodeb o'r holl adborth, gan gynnwys yr hyn a dderbynnir am gydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg, yn cael ei rannu’n flynyddol â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Gweler Polisi Adborth Cwsmeriaid Cyngor Dinas Casnewydd - Canmoliaethau, Sylwadau a Chwynion i gael rhagor o wybodaeth am rannu canmoliaethau, sylwadau a chwynion gyda'r Cyngor. 

Os oes gennych gŵyn yn ymwneud ag ysgol cysylltwch â Phennaeth yr ysgol.

Mae delio â chwyn yn broses syml ond weithiau mae cwynion yn cael eu dilyn mewn ffordd a all rwystro'r ymchwiliad neu achosi problemau adnoddau sylweddol i'r Cyngor.

Darllenwch ein Polisi Camau Gweithredu Annerbyniol gan Gwsmeriaid  (pdf) i gael rhagor o wybodaeth am ymddygiad sy'n cael ei ystyried yn annerbyniol a chamau gweithredu y gellir eu cymryd i ddiogelu staff. 

Hysbysiad Preifatrwydd Canmoliaethau, Sylwadau a Chwynion (pdf)

Sut i wneud cwyn?

I wneud cwyn neu i gael rhagor o wybodaeth am y broses, defnyddiwch y ffurflen cwynion ar-lein neu cysylltwch â:  

Tîm Datrys Cwynion, Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Godfrey Road, Casnewydd, NP20 4UR  

E-bost: complaints@newport.gov.uk neu ffôn 01633 656 656

Alla i wneud cwyn i unrhyw un arall?

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n rheoleiddio'r holl wasanaethau gofal yng Nghymru. Gallwch gwyno'n uniongyrchol iddynt am ofal cymdeithasol a dderbyniwyd gan gartrefi gofal ac asiantaethau gofal cartref, yn ogystal â gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor.

Gallwch wneud cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch unrhyw agwedd ar wasanaethau cyhoeddus.  Er hynny, mae'n well gan yr Ombwdsmon i bobl ddefnyddio proses gwyno'r Cyngor yn y lle cyntaf. 

Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a gall ymchwilio i gwynion am eu hymddygiad.

Os ydych am wneud cwyn am sut mae gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol wedi ymddwyn, ffoniwch 029 2078 0545 neu e-bostiwch ftp@socialcare.cymru 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Butetown, Caerdydd CF10 5FL : Ffôn: 08442 640670 (cyfradd safonol) neu 02920 445030 (rhif ffôn lleol) : e-bost: ask@olderpeoplewales.com

Comisiynydd Plant Cymru, Tŷ Ystumllwynarth, Phoenix Way, Abertawe, SA7 9FS : Rhif Ffôn: 01792 765600Rhif Rhadffôn Plant a Phobl Ifanc:  0808 801 1000 

Gwasanaeth Eiriolaeth   

Mae LLAIS yn gorff statudol annibynnol newydd, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, i bobl Cymru gael dweud eu dweud o ran sut mae eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno– yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. 

Gwasanaethau Eiriolaeth eraill: