Cwestiynau i'r Arweinydd o fis Mai 2017

Member question: Councillor R. Mogford, received 19 March 2018

Subject: Questions to Leader (15 minutes)

As councillors we are all aware of this administration aspiring to the  principles of democracy and indeed until quite recently the desire to get  branding recognition for Newport as a City (no less) of Democracy. 

Now as a great positive, while attending full council, I and no doubt the majority of the chamber are impressed by the agenda item where we get an update from a senior member of the police and how professionally the officer on the spot handles the session which includes a multitude of  unrehearsed questions and comments from councillors cross the chamber.

This session lasts for a full 30 minutes and answers are always clear, targeted and precise, in my view.  

This brings me to the agenda item: Questions to the Leader (15 minutes) and the associated protocol. My question then in short is: 

Does the Leader feel that after a number of opportunities over the last year of facing questions from the floor now is the time to both extend the 15 min session which is clearly inadequate and, although it is not stated in standing orders, would the Leader consider the benefits of giving 'crisper', targeted answers to questions raised thus also allowing more questions to be aired while still providing the full and relevant response that each question deserves? 

Response:

Dear Councillor Mogford

The time allocated for Leader’s question time and the protocol for asking questions have been approved by full Council and are set out in Standing Orders.

The 15 minutes allocated  is more than adequate, in my view, to allow pertinent questions and a full response. Therefore, it is not appropriate to change this at the present time. I would also remind you that members still have the right, under Standing Orders, to put written questions  at any time (as you have done on this occasion) and they do not have to wait until the next Council meeting – unlike the police question time. Issued 4 April 2018


Member question: Councillor Chris Evansreceived 13 November 2017

Subject: Council pension fund investment

Please see correspondence below from a  Rogerstone neighbour with regards to our council's pension fund investment into fossil fuels, could you please answer:  

  1. Do you agree that the council should divest its pension fund from fossil fuels and reinvest in ways that benefits the community?
  2. What steps are the council taking to end fossil fuel investments and invest responsibly?  

E mail question in full:

I am writing to you as your constituent to express my concern about the investments of our council pension fund in fossil fuel companies and to ask you to support the divestment of the fund.  

A new report (http://gofossilfree.org/uk/fuellingthefire) shows that across the UK council-managed pension funds are investing more £16 billion in oil, coal and gas companies. These investments undermine local and national efforts to address climate change, and represent an unacceptable financial risk to pension-holders.  

Two years ago, world governments signed the Paris Agreement – pledging to curb emissions and limit global temperature rise to 1.5 degrees. But the actions of fossil fuel companies like Shell and BP are pushing us far beyond this vital climate threshold.  

Since 2015, the world has experienced the warmest year ever recorded and 2017 has brought devastating extreme weather events. Further extraction and burning of fossil fuels is not compatible with tackling climate change, and investing in fossil fuels is deeply irresponsible.  

These investments also represent a serious financial risk to council pension funds. The value of fossil fuel companies is based on their reserves, and ability to burn them. But if global climate targets are going to be met, these reserves are ‘unburnable’ (https://goo.gl/EU3F95). 

Leading financial experts, including the Governor of the Bank of England, Mark Carney, have highlighted the risks of fossil fuels becoming ‘stranded assets’ and the danger which this poses to funds which continue to invest in them. 

Council pension funds should be invested in the long-term interests of their members but they are not well served by risky investments which are driving climate change. Instead, councils could be investing in ways that benefit the local community – like renewable energy infrastructure and green social housing.  

Fossil fuel divestment is a practical, legal and responsible way for pension funds to respond to climate change and address financial risk. Over 800 institutions around the world have made divestment commitments, including council pension funds in the UK like Southwark and Waltham Forest.  

Local councillors have significant power over the investment decisions of the Local Government Pension Scheme.

Response:

The Greater Gwent (Torfaen) Pension Fund is managed by Torfaen County Borough Council and they have recently issued a press statement regarding their investment practices, which in summary states:

We (The Greater Gwent (Torfaen) Pension Fund ) agree this is an important area and we’re pleased to know that the fund we’re in takes it seriously and has taken steps to look at current practices and policies and its fund managers are required to comply with international principles for responsible investing.

We’re satisfied that they are taking appropriate steps which shows their commitment to this area.

As pension funds merge in the future, the influence of these combined, bigger funds can only strengthen in this respect.   

The Fund uses a number of fund managers who rigorously review all investments to ensure they are financially strong and their business plans and strategies are robust in going forward. 

Issued 22 November 2017 


 

Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd M Evans, a dderbyniwyd ar 18 Hydref 2017

Pwnc: Penderfyniad i ddefnyddio arian grant Llywodraeth Cymru

Cefais yr ateb canlynol gan y pennaeth gwasanaeth ynglŷn â grant gan Lywodraeth Cymru:

Roedd y setliad drafft ledled Cymru yn cynnwys swm tybiannol o £3 miliwn (£142,000 ar gyfer Casnewydd) i gefnogi menter beilot ar gyfer parcio yng nghanol y ddinas. Nid yw hwn yn grant penodol ac, oherwydd iddo ddod trwy’r Grant Cynnal Refeniw, nid yw wedi’i neilltuo, h.y. nid yw wedi’i glustnodi at ddefnydd penodol. O ganlyniad i’r setliad terfynol gwael, gostyngiad o 0.43% mewn arian parod, a phwysau sylweddol ar feysydd eraill y cyngor, fe’i defnyddiwyd i ariannu gwasanaethau presennol.

A allwch chi ddweud wrthyf pwy wnaeth y penderfyniad hwn i ariannu gwasanaethau presennol yn hytrach na chefnogi menter beilot ar gyfer parcio yng nghanol y ddinas, a phryd y’i gwnaed? 

Ymateb:

Ni wnaed penderfyniad ffurfiol ar y mater hwn ac ni chafodd ei amlygu ar gyfer penderfyniad ffurfiol gan aelodau oherwydd ni eglurwyd ar adeg y setliad a gosod y gyllideb bod angen i’r mater gael ei ariannu ac felly bod angen penderfyniad ffurfiol.

Nid oedd wedi’i gynnwys fel unrhyw ‘gyfrifoldeb newydd’ ffurfiol na ‘grant penodol’ newydd, er enghraifft, sef y llwybrau arferol ar gyfer mentrau newydd.

Dim ond wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen y mae hyn wedi dod yn fwy eglur wrth i Lywodraeth Cymru ofyn am ddiweddariadau ar y mater. Nid yw’n tynnu oddi ar y ffaith mai awdurdodau unigol sydd i benderfynu sut i ddyrannu’r gyllideb a ariennir o’r Grant Cynnal Refeniw.  

Bydd yr Aelod Cabinet Strydlun yn adolygu’r mater yn ffurfiol gyda’r pennaeth strydlun ac yn penderfynu pa waith, os o gwbl, y mae angen ei wneud ar y mater hwn yng Nghasnewydd. Cyhoeddwyd 27 Hydref 2017 

    

Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd M Evans, a dderbyniwyd ar 26 Gorffennaf 2017

Pwnc: Llusernau Tsieineaidd

Mae RSPCA Cymru wedi bod yn cynnal ymgyrch ar wahardd y defnydd o lusernau awyr, a elwir hefyd yn Llusernau Tsieineaidd, ar dir a berchenogir gan gynghorau. Mae eu cylchlythyr diwethaf, y credaf fod pob aelod wedi’i dderbyn, yn datgan mai’r cyngor hwn yw un o bump yn unig yng Nghymru nad ydynt wedi gweithredu gwaharddiad o’r fath. A fyddai Arweinydd y cyngor yn cefnogi cynnig trawsbleidiol i ddilyn mwyafrif Cymru a gwahardd rhyddhau’r llusernau hyn yng Nghasnewydd?

Ymateb:

Mewn ymateb i’ch cwestiwn, mae Arweinydd y cyngor yn ymwybodol o’r materion sy’n gysylltiedig â’r llusernau hyn ac ni fyddai’n eich gwrthwynebu pe byddech yn cyflwyno cynnig ffurfiol yn y Cyngor i wahardd eu rhyddhau ar dir y cyngor. Yna, gallai hyn fod yn destun trafodaeth agored a phleidlais rydd.

Fodd bynnag, fe’i cynghorwyd y byddai’r penderfyniad i orfodi gwaharddiad o’r fath yn fater i’r Weithrediaeth, ac y gallai’r Cyngor wneud argymhelliad i’r Cabinet i’w ystyried yn unig. Oherwydd byddai angen i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan y Cabinet, ni fyddai’n briodol i’r Arweinydd, nac unrhyw un o’i chydweithwyr yn y Cabinet, eilio’r cynnig i’r Cyngor yn ffurfiol ar yr adeg hon. Cyhoeddwyd 10 Awst 2017


Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd Jordan, a dderbyniwyd ar 13 Mehefin 2017

Pwnc: Gêm Derfynol Pencampwriaeth UEFA 

Gan gyfeirio at gêm derfynol Pencampwriaeth UEFA a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ychydig wythnosau yn ôl, a fyddech cystal ag ateb rhai cwestiynau i mi.  

1) Pam nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymwneud â’r twrnamaint hwn i gael ardal i gefnogwyr yng Nghasnewydd?   

2) Pam nad oedd cyfle i Gasnewydd wneud rhywfaint o arian o’r digwyddiad hwn?

Ymateb: 

Annwyl Gynghorydd Jordan 

Y model a ffefrir gan UEFA ar gyfer rhyngweithio gan gefnogwyr yw datblygu gŵyl gysylltiedig, fel a ddarparwyd ym Mae Caerdydd, yn hytrach na’r syniad traddodiadol o ardaloedd i gefnogwyr h.y. lle mae darllediad byw o’r gêm ar y teledu’n cael ei wylio gan gynulliadau mawr o gefnogwyr. Sylwch nad oedd gêm derfynol y dynion wedi cael ei darlledu’n fyw yng Nghaerdydd hyd yn oed.  

Mae digwyddiadau mawr o’r fath o fudd i’r ardal ehangach, yn enwedig y sector lletygarwch, gan gynnwys archebu/meddiannu lle mewn gwestai. Fel cyngor, rydym hefyd yn sicrhau bod lleoliadau ymwelwyr/digwyddiadau allweddol yn cynnig gwybodaeth am fannau i fwyta ac ymweld â nhw, er mwyn annog pobl i wario arian yn lleol.

Cefnogwyd Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr gan Lywodraeth Cymru ac, yn unol â’u hymagwedd drylwyr at adolygu digwyddiadau o’r fath, gallwn weld eu gwerthusiad llawn pan fydd wedi’i gwblhau. Edrychwn ymlaen at ystyried y wybodaeth honno, rhoi adborth i’r broses, a mabwysiadu’r gwersi a ddysgwyd wrth gyflwyno a chefnogi digwyddiadau yn y dyfodol. Cyhoeddwyd ar 27 Mehefin 2017


Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd Kellaway, a dderbyniwyd ar 15 Mehefin 2017

Pwnc: Effaith digwyddiadau mawr ar fusnesau lleol

O ran effaith gweithgareddau mawr fel gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr, uwchgynhadledd NATO ac ati ar fusnesau lleol. Er ei bod yn wych bod y rhain yn dod i Gymru ac, yn wir, i Gasnewydd, a yw’r cyngor hwn yn sylweddoli’r effaith ar fusnesau pan fydd yr heddlu’n cynghori pobl i beidio â theithio yn yr ardal? Ar brynhawn dydd Sadwrn gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr, ’doedd braidd dim busnes i’w weld ym mhentref Llanwern.

Bydd y Felothon sydd i ddod ym mis Gorffennaf yn cyflwyno her arall eto i fusnes. 

A wnewch chi gynnal ymgynghoriad ystyrlon â’r holl fusnesau lleol fel bod y digwyddiadau hyn yn cael eu hystyried yn gyfleoedd ac nid yn ddiwrnod arall pan fyddant yn colli incwm a allai eu gwthio dros y dibyn.

Ymateb:

Fe’ch sicrhaf, fel cyngor, ein bod ni bob amser yn ceisio ystyried yr elw ar fuddsoddiad, y buddion ehangach i’r ddinas a’r effaith ar breswylwyr, cymunedau a busnesau.  

Mae’n bwysig nodi nad yw llawer o’r digwyddiadau hyn yn cael eu trefnu gan y cyngor, ond rydym yn gweithio gyda threfnwyr y digwyddiad i sicrhau ein bod yn cynyddu buddion ac yn lleihau aflonyddu i’r eithaf. 

Er enghraifft, ar gyfer Felothon eleni, rydym wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr y digwyddiad yn ystod y cyfnodau cynnar i leihau faint o amser y bydd ffyrdd ar gau a gwella’r cyfathrebu â’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ar hyd y llwybr. 

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r adran digwyddiadau mawr yn Llywodraeth Cymru sydd wedi sefydlu prosesau asesu ac adolygu trylwyr i fynd i’r afael â’r materion hyn yn benodol. Yn ogystal ag ystyried y materion hyn yn llawn cyn digwyddiadau o’r fath, fe’u gwerthusir yn fanwl er mwyn penderfynu p’un a fydd cefnogaeth yn cael ei rhoi yn y dyfodol. 

O ran digwyddiadau mawr fel NATO, un o’r prif fuddion oedd dangos bod Casnewydd yn meddu ar y gallu, y seilwaith a’r egni i gynnal digwyddiadau gwirioneddol fyd-eang. Roedd cynnal uwchgynhadledd NATO yn 2014 wedi gwella enw da’r ddinas am ragoriaeth o ran digwyddiadau ac wedi rhoi amlygrwydd rhyngwladol i’r ddinas. Rydym eisoes wedi gweld sut mae hyn wedi ysgogi buddsoddiad ychwanegol gan amrywiaeth eang o sectorau ac wedi gweithredu fel sbardun ar gyfer datblygu’r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol.  

Mae arbenigwyr o fewn y cyngor yn gweithio i liniaru unrhyw effaith ar fusnesau hefyd. 

Er enghraifft, gofynnwn i drefnwyr digwyddiadau ddarparu dolenni i wybodaeth leol ar eu gwefannau fel bod ymwelwyr yn ymwybodol o’n busnesau a’n cyfleusterau. Rydym yn sicrhau bod lleoliadau ymwelwyr/digwyddiadau allweddol yn cynnig gwybodaeth am fannau i fwyta ac ymweld â nhw, er mwyn annog pobl i wario arian yn lleol. 

Eleni, gwnaed ymdrech ychwanegol i ymgysylltu â busnesau cyn y Felothon wrth i drefnwyr y digwyddiad fynychu fforymau masnach i siarad â busnesau lleol. Mae hyn nid yn unig yn sicrhau bod busnesau lleol yn cael gwybodaeth well, ond hefyd yn rhoi cyfle iddynt gynnig syniadau a safbwyntiau yn uniongyrchol i drefnwyr y digwyddiad. 

Rydym hefyd yn gweithio gydag atyniadau lleol, gan eu cynorthwyo i gysylltu â’r cyfryngau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau proffil uchel o’r fath, gan felly godi eu proffil ymhellach ymhlith cynulleidfaoedd eang. 

Sylweddolwn na fydd pawb yn elwa o bob digwyddiad, ond y nod cyffredinol yw eu bod yn ychwanegu at yr hyn sydd gan y ddinas i’w gynnig, yn denu ymwelwyr ac yn cefnogi, yn y tymor hir, ein twf economaidd parhaus. Cyhoeddwyd ar 26 Mehefin 2017


Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd K Whitehead, a dderbyniwyd ar 1 Mehefin 2017

Pwnc: Rheolau Sefydlog ar gyfer cwestiynau i’r cyngor

Diolch am eich ateb diweddar i’m cwestiwn isod, a llongyfarchiadau hwyr i chi ar gael eich penodi’n swyddogol yn arweinydd ein dinas wych. Mae Annibynwyr Casnewydd yn edrych ymlaen at weithio gyda chi’n adeiladol yn ystod y pum mlynedd nesaf. Credwn yn gryf fod angen i gyfarfodydd y ‘cyngor llawn’ gael eu diwygio’n flaengar i gynnwys cwestiynau agored i aelodau’r cabinet ac i chi eich hun, fel arweinydd. Fe gofiwch hefyd, yn yr Hysting, i chi ymrwymo i gyflwyno ‘cwestiynau agored’ yn y cyngor llawn, gan ychwanegu ‘gallwch ofyn unrhyw beth i mi’. Felly, rydym yn gofyn i chi newid y rheolau sefydlog yn unol â hyn mewn pryd i gytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y cyngor llawn. Fel y nodwyd gennym yn flaenorol, mae’n ddiddorol nad oedd yr addewid hwn yn ymddangos ym maniffesto Llafur Casnewydd. Mae’r datganiad ‘gallwch ofyn unrhyw beth i mi’ hefyd yn awgrymu y bydd Llafur Casnewydd yn caniatáu cwestiynau gan y cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor llawn, felly gofynnwn ymhellach i’r rheolau sefydlog gael eu diwygio i gynnwys y newid hwn. Rydym yn falch o fod wedi cynnwys y syniad o gwestiynau agored yng Ngweledigaeth Plaid Annibynnol Casnewydd:  

Bydd cwestiynau gan y cyhoedd yn cael eu caniatáu a’u hannog yn y cyngor llawn. 

Bydd cwestiynau i’r arweinydd/cabinet yn cael eu caniatáu a byddwn yn cadw cwestiynau ‘ar unrhyw bryd’, sy’n golygu y gellir gofyn cwestiwn ysgrifenedig i aelodau’r cabinet a’r arweinydd ar unrhyw bryd. 

Byddwn yn annog pobl Casnewydd i ddeisebu’r cyngor ynglŷn â’r materion sy’n bwysig iddynt. Bydd deisebau sy’n cynnwys mwy na 500 o lofnodion lleol gan breswylwyr Casnewydd yn cael eu trafod yn y cyngor llawn. 

Yn ogystal â’r awgrymiadau uchod, hoffem hefyd ofyn i’r rheolau sefydlog gael eu diwygio fel bod deisbau sy’n cynnwys mwy na 500 o lofnodion yn cael eu rhoi ar agenda’r cyngor llawn yn awtomatig i’w trafod. 

Rhannwn eich gweledigaeth o Gasnewydd sy’n dod yn ddinas democratiaeth, ond teimlwn y dylem ddechrau trwy ddod yn fwy gwirioneddol ddemocrataidd.

Ymateb:

Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedoch, ymrwymais yn glir yn ystod yr etholiad i gyflwyno cwestiynau agored i’r Arweinydd yn y Cyngor, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 25 Gorffennaf 2017 yn cynnig y newidiadau angenrheidiol i’r rheolau sefydlog fel y gallwn gyflwyno hyn.  

Nid ydym yn bwriadu cyflwyno cwestiynau uniongyrchol gan y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Cyngor ar hyn o bryd. Fel gweinyddiaeth, rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw yn ein holl fusnes, ond credwn fod llwybrau mwy priodol ar gyfer y math hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd. Er enghraifft, mae cyfrwng eisoes yn bodoli i’r cyhoedd awgrymu materion a phynciau’n uniongyrchol i’r pwyllgorau craffu eu hystyried. Wrth ffurfio fy Nghabinet newydd, rwyf wedi rhoi cyfrifoldeb penodol dros ymgysylltu â’r cyhoedd i’m Haelod Cabinet ar gyfer Cymunedau ac Adnoddau, sef y Cynghorydd  Mayer, ac rwyf wedi rhoi’r dasg iddo archwilio sut gallwn ryngweithio’n fwy effeithiol â phreswylwyr, a hyrwyddo a datblygu’r sianeli cyfathrebu sydd ar gael. 

Adolygodd a chytunodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar y protocol ar gyfer deisebau ddiwethaf ym mis Chwefror 2015. Lluniwyd a chytunwyd ar yr adroddiad mewn ymateb uniongyrchol i’r materion penodol a gododd ynglŷn â derbyn deisebau yn y Ganolfan Ddinesig, er mwyn egluro’r broses honno. Nid oedd yn mynd i’r afael â deisebau i’r Cyngor yn benodol, nac yn ymdrin ag e-ddeisebau. Erbyn hyn, gallwn ymdrin ag e-ddeisebau trwy ein meddalwedd modern.gov. Bwriadaf ofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adolygu’r ymagwedd at ddeisebau, er mwyn archwilio’r pwyntiau hyn a gwneud argymhellion arnynt. Cyhoeddwyd ar 16 Mehefin 2017


Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd M Evans, a dderbyniwyd ar 13 Mehefin 2017

Pwnc: Gwerthu Friars Walk

Yn y datganiad i’r wasg diweddar a gyhoeddwyd ynglŷn â gwerthu Friars Walk, dywedoch eich bod yn “croesawu’r cytundeb a fydd yn sicrhau bod y cyngor yn gallu ad-dalu’r benthyciad a gafodd i ariannu’r cynllun yn llawn.”   

A allwch chi gadarnhau p’un a fydd enillion y cytundeb yn ddigon i ad-dalu’r benthyciad yn llawn ai peidio, ac os oes diffyg, faint ydyw?

Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd C Evans, a dderbyniwyd ar 12  Mehefin 2017

Pwnc: Gwerthu Friars Walk

Gan gyfeirio at werthu Friars Walk yn ddiweddar, mae cymydog yn Nhŷ-du wedi codi’r cwestiynau canlynol:  

  • Am faint y gwerthwyd Friars Walk?  

Yn ogystal, o ran y datganiad: “Bydd gan y cyngor fuddiant ariannol parhaus yn y cynllun trwy gyfran fach o’r incwm rhent a fydd sicrhau buddion i’r ddinas am flynyddoedd lawer i ddod.” 

  • Beth yw’r union ffigur y bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn ei gael o ‘incwm rhent yn y dyfodol’ ar gyfer unedau? Sut mae hyn wedi’i strwythuro, ac am sawl blwyddyn?
  • A fydd yr incwm o unedau rhent yn cael ei ôl-ddyddio?

O ystyried bod y gwerthiant wedi cael ei gwblhau, ac er mwyn bod yn agored ac yn atebol, ni ddylai fod unrhyw sensitifrwydd masnachol yn gysylltiedig â chyhoeddi’r wybodaeth uchod.  

Hoffwn hefyd ddiolch i unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a fu’n ymwneud â’r broses am eu cyfraniad. 

Ymateb: 

Diolch am eich cwestiwn. Bydd gwerthu Friars Walk yn destun adroddiad cyhoeddus i’r Cabinet, sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi manylion y gwerthiant, a bydd ar gael i bawb ei weld. Cyhoeddwyd ar 13 Mehefin 2017 


Cwestiwn gan Aelod: Y Cynghorydd C Townsend, a dderbyniwyd ar 18 Mai 2017

Pwnc: Newport Transport

Fel prif gyfranddaliwr Newport Transport Ltd, a wnaiff Arweinydd y cyngor amlinellu ei hymrwymiad i gynnal cyfarfodydd rheolaidd a thrafodaethau gweithredol rhwng y cyngor a’r cwmni?

Ymateb:

Ers dod yn Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ym mis Mai 2016, cychwynnais gyfres o gyfarfodydd rheolaidd â Rheolwr Gyfarwyddwr, uwch dîm a Chadeirydd Bwrdd Newport Transport. Mae ein huwch swyddogion yn cyfarfod ac ymgysylltu â swyddogion Newport Transport yn rheolaidd hefyd. Mae’r Prif Weithredwr a minnau wedi mynychu cyfarfod cyffredinol blynyddol diweddar y Bwrdd, a bwriadaf barhau yn y modd hwn er mwyn sicrhau bod trafodaethau gweithredol yn cael eu cynnal, gan felly gyflawni fy ymrwymiad fel un o brif gyfranddalwyr y cwmni. Cyhoeddwyd ar 1 Mehefin 2017