Caffael

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cael gwerth am arian o'n gwariant ar gyflenwyr allanol, rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau contractio eraill drwy Rwydwaith Caffael Cenedlaethol CLlLC, a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i sicrhau dull cydweithredol o gontractio, gan fanteisio i'r eithaf ar ein cyfleoedd ar gyfer arbedion effeithlonrwydd a chaffael arfer gorau.

Rydym hefyd yn sicrhau bod ein gweithgarwch caffael yn bodloni gofynion polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi ac yn darparu gwerth cymdeithasol i'n cymunedau.

Telerau talu safonol y cyngor yw 30 niwrnod clir ar ôl derbyn anfoneb gyflawn a chywir.

Diogelu Data 

Os ydych yn contractio gyda'r cyngor ac yn delio â gwybodaeth bersonol, mae'n rhaid i chi fodloni gofynion y Gyfarwyddeb Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) - gallai peidio â gwneud hyn arwain at ddirwyon mawr.

Darllenwch ragor ar  wefan y Comisiynydd Gwybodaeth neu cysylltwch â thîm caffael y cyngor.

Darllenwch am Dim AB, Dim Talu

Mae’n well gan y cyngor dalu trwy BACS, gan fod hyn yn fwy cost-effeithiol a diogel.

Mae rhediadau talu BACS ar gyfer anfonebau cyflenwyr yn cael eu prosesu ddwywaith yr wythnos i annog defnydd o’r cyfleuster hwn.

Cyfleoedd tendro

Anogir cyflenwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, ac o bosibl y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn gryf i gofrestru fel cyflenwyr ar GwerthwchiGymru.

Rydym yn defnyddio GwerthwchiGymru i hysbysebu ymarferion caffael agored, felly drwy gofrestru cewch wybod am gyfleoedd sydd ar y gweill, a chael cyfarwyddiadau ar sut i dendro am waith.

Ar hyn o bryd rydym hefyd yn defnyddio etenderwales i gynnal tendrau cwbl electronig, gan ddileu'r angen i gyhoeddi a dychwelyd tendrau ar bapur, a lleihau ein hôl troed carbon.

Unwaith eto, fe'ch anogir yn gryf i gofrestru fel cyflenwr ar eDendroCymru.

Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth.

Cyswllt

I gael gwybodaeth gyffredinol am dendro a chaffael ar gyfer Cyngor Dinas Casnewydd, e-bostiwch procurement@newport.gov.uk a byddwn yn falch o ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cadwch lygad ar y dudalen hon am ddatblygiadau yn y dyfodol a mwy o wybodaeth oherwydd rydym yn bwriadu darparu rhagor o fanylion defnyddiol i helpu cyflenwyr sydd â diddordeb i ddeall y cyfleoedd sydd gyda'r cyngor a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru.