Menter Twyll Genedlaethol
Mae’n ofynnol i Gyngor Dinas Casnewydd, dan y gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus mae'n ei weinyddu a chaiff rannu gwybodaeth a ddarperir iddo gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilio cyfrifon y cyngor ac yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data.
Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gan gorff arall i weld i ba raddau maent yn cydweddu - mae hyn fel arfer yn wybodaeth bersonol.
Mae paru data ar y cyfrifiadur yn galluogi hawliau a thaliadau y mae’n bosibl eu bod yn dwyllodrus i gael eu hadnabod. Pan ddeuir o hyd i bâr mae'n bosibl y bydd yn dangos bod anghysondeb sydd angen ymchwilio iddo ymhellach.
Ni ellir gwneud rhagdybiaeth o ran a oes twyll, gwall neu esboniad arall hyd nes i ymchwiliad gael ei gynnal.
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i ni gyfranogi mewn ymarfer paru data er mwyn cynorthwyo gydag atal a chanfod twyll.
Mae’n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol i’w paru ar gyfer pob ymarfer, rhestrir y rhain yng Nghanllawiau Swyddfa Archwilio Cymru.
Defnyddir data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarferion paru data drwy awdurdod statudol dan ei bwerau yn Rhan 3 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Nid oes angen gofyn am ganiatâd yr unigolion dan sylw dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) na Deddf Diogelu Data 2018.
Mae Cod Ymarfer (pdf) ar waith ar gyfer paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Darllenwch fwy am y Fenter Twyll Genedlaethol.
Cysylltu
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y prif archwilydd mewnol.