Cyllideb

Brief2

Cyllideb flynyddol 2023/24

£5m i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau allweddol i Gasnewydd 

Mae Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno sut y bydd yn gwario'i gyllideb ar gyfer 2023-24.

Ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar nifer o gynigion ac roedd yr ymateb gan y cyhoedd yn rhagorol, gyda miloedd o ymatebion wedi eu derbyn.

Ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, mae nifer o newidiadau a diweddariadau yn cynnwys setliad positif gan Lywodraeth Cymru, llai o bwysau ar wasanaethau, arbedion ychwanegol a chadarnhad o gyllid grant arall wedi golygu bod y Cabinet wedi gallu dyrannu £2.5m yn ychwanegol.

Penderfynwyd hefyd i addasu cronfeydd wrth gefn y Cyngor at ddibenion gwahanol, gan olygu buddsoddiad ychwanegol cyffredinol o £5m yn 2023/24.

Gan ystyried barn preswylwyr am ba wasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw, wedi'u cydbwyso â bwlch heriol rhwng yr arian sydd ar gael a chostau cynyddol darparu gwasanaethau, dyma rai o'r prif benderfyniadau y mae'r Cabinet wedi cytuno arnynt:

Gwyliwch neges gyllideb gan Arweinydd y cyngor. 

FEIAs

Ffeithiau a ffigyrau Casnewydd 

  • Cyllideb net Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer 2022/23 oedd £343 miliwn
  • Mae dwy ran o dair o gyllideb y cyngor yn cael ei wario ar ysgolion, addysg a gofal cymdeithasol. 
  • Ariennir dros dri chwarter o gyllideb y cyngor gan y grant oddi wrth Lywodraeth Cymru. 
  • Mae'r balans yn cael ei ariannu gan y dreth cyngor. Am bob toriad o un y cant yng ngrant Llywodraeth Cymru, byddai'n rhaid i'r dreth gyngor gynyddu gan bedwar y cant i gynnal yr un lefelau gwariant.
  • Treth cyngor Casnewydd yw'r trydydd isaf yng Nghymru ar hyn o bryd.   
  • Mae Cyngor Dinas Casnewydd eisoes wedi gweithredu dros £90m o arbedion ers 2011 oherwydd sawl blwyddyn o lymder a thoriadau cyllidebol mewn termau real.
  • Mae'r cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau ar gyfer 155,000 o bobl sy'n byw mewn mwy na 65,000 o aelwydydd. Gydag effaith Covid-19 a nawr yr argyfwng costau byw ar unigolion, busnesau, yr economi, cyflogaeth, ac iechyd, rydym yn gweld y galw am wasanaethau cymorth yn parhau i godi.
  • Mae enghreifftiau o'r costau a'r pwysau cynyddol sy’n cael eu hwynebu gan y cyngor yn cynnwys:
    • Mwy o gostau tanwydd ac ynni - mae nwy 300% yn uwch, mae trydan 150% yn uwch. Mae hyn yn effeithio ar bopeth o ysgolion i oleuadau stryd.
    • Mwy o alw am ofal - mae costau wedi codi o £43.5m yn 2019/20 i ragamcan o £58m eleni.
    • Roedd tua 1,000 yn rhagor o ddisgyblion yn mynychu ysgolion Casnewydd yn ystod y tair blynedd diwethaf.
    • Yn gysylltiedig â heriau'r pandemig, mwy o leoliadau brys i blant sy'n derbyn gofal. Rhagwelir cost o £2.2m yn 2022/23 o'i gymharu â £300 mil yn 2019/20.
    • Mae cyfraddau chwyddiant o tua 10% yn cynyddu cost yr holl wasanaethau a chyflenwadau sy'n cael eu prynu gan y cyngor.
  • Mae gan Gasnewydd boblogaeth sy'n tyfu.  O awdurdodau lleol Cymru, Casnewydd welodd y gyfradd uchaf o dwf yn y boblogaeth ers 2011 (9.5%).  Mae hyn yn uwch na chyfraddau twf poblogaeth Cymru a Lloegr.  Mae'r twf hwn ar draws pob grŵp oedran.
  • Casnewydd welodd y cynnydd uchaf yn nifer yr aelwydydd hefyd o'i gymharu â 2011 (8.1%).