Cartref Nyrsio Tŷ Pentwyn

Pentwyn House Care Home_1

Mae Cartref Nyrsio Tŷ Pentwyn wedi’i gofrestru yn gartref nyrsio ac yn gartref gofal, gydag enw gwych am safonau gofal uchel.

Wedi’i gofrestru a’i archwilio gan AGGCC (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) mae’r cartref yn gofalu am gleientiaid sy’n fregus a’r rhai sydd ag anghenion nyrsio, beth bynnag yw’r arbenigedd sydd ei angen.

Mae Pentwyn â phrofiad o ofalu am breswylwyr sydd angen gofal lliniarol a therfynol. Mae hefyd yn gofalu am rai sydd angen gofal seibiant neu gyfnod byr o wella.

Anogir preswylwyr newydd i aros gyda’u meddyg teulu os yn bosibl, ond gellir gwneud trefniadau amgen yn lleol. 

Mae’r cartref yn cydlynu gyda gwasanaethau cymorth iechyd lleol ac yn gofyn am gyngor gan  dîm ymchwil maes gwella clwyfau Ysbyty Athrofaol Cymru, tîm gofal lliniarol Gofal Hospis Dewi Sant a Chanolfan Marie Curie, Holme Towers pan fo angen.

Cyfleusterau

  • 43 gwely (39 nyrsio, 4 preswyl)
  • gofal seibiant cyffredinol
  • gofal lliniarol

Cysylltu 

166 Marshfield Road, Maerun, Casnewydd CF3 2TU

Ffôn: (01633) 680217

E-bost: [email protected]

Gwefan: www.pentwyncare.co.uk