Cartref Preswyl Parklands

Caiff Cartref Preswyl Parklands ei redeg gan Gyngor Sir Casnewydd ac mae’n cynnig gwasanaethau gofal preswyl i hyd at 26 o oedolion. 

Mae Parklands ym Malpas, yn agos i siopau lleol a fferyllfa gyda gwasanaeth bws rheolaidd i ganol dinas Casnewydd.

Mae ganddo 26 o ystafelloedd gwely, 13 ohonynt a ddefnyddir ar gyfer gofal preswyl hirdymor a 13 ar gyfer gofal canolraddol tymor byr.

Mae’r gofal canolraddol yn cynnwys llety tymor byr i ddynion a merched a all gael budd o gyfnod o ail-alluogi, fel arfer ond nid bob amser yn dilyn treulio cyfnod yn yr ysbyty.

Nod yr uned yw galluogi pobl i ddychwelyd i’w cartrefi drwy eu helpu i adennill hyder gyda sgiliau byw bob dydd, eu hasesu ar gyfer gwasanaeth Teleofal a lleihau eu dibyniaeth ar wasanaethau hirdymor.

Mae gan y cartref erddi taclus gan gynnwys ardaloedd patio gyda thŷ gwydr a chwt potiau ar gyfer garddwyr brwd a digon o seddi i ymlacio a mwynhau golygfeydd o Dwmbarlwm a’r ardal gyfagos.

Mae gan Parklands ddau lawr ac mae modd defnyddio grisiau neu lifft i fynd i’r llawr uchaf.  

Cyfleusterau

  • 26 ystafell wely 
  • Gofal ar gyfer henaint, bregusrwydd corfforol, iechyd meddwl, ychydig o ddemensia, ail-alluogi.
  • Ni chynigir gofal nyrsio 

Cyswllt  

Cartref Preswyl Parklands, Blackett Avenue, Malpas, Casnewydd NP20 6NH  

E-bost:  [email protected] 

Ffôn: (01633) 821249

TRA101993 10/05/2019