Casnewydd sy'n ystyriol o Ddementia

Dementia Friends logo

Mae bron i 2,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghasnewydd ac mae'n bwysig bod pobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn gallu byw mor normal â phosibl gydag urddas a pharch.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cofrestru'n llwyddiannus i dderbyn Achrediad Cenedlaethol y Gymdeithas Alzheimer fel dinas sy'n gweithio tuag at fod yn ddinas sy'n ystyriol o ddementia.

Bydd partneriaeth a chynllun cyflawni ar y cyd, sef y Gynghrair Gweithredu ar Ddementia, yn codi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith sefydliadau a busnesau lleol trwy hyfforddiant a digwyddiadau gwybodaeth.

Ffrindiau Dementia

Mae dros 700 o bobl wedi mynychu sesiynau Ffrindiau Dementia yng Nghasnewydd i ddysgu sut beth yw byw gyda dementia a sut i helpu a throi'r ddealltwriaeth honno yn weithredu.

Gallwch adnabod ffrind dementia trwy fathodyn bach glas ar ffurf blodyn llygad y dydd sy'n cael ei gyflwyno ar ôl mynychu sesiwn.  

Mynychu sesiwn am ddim i ffrindiau dementia

Dolenni defnyddiol

Map Ffyrdd Dementia Cymru 
Mae'n darparu gwybodaeth am y daith dementia yn ogystal â gwybodaeth leol am wasanaethau, grwpiau cymorth a llwybrau gofal.

Deall dementia
Symptomau sy’n gallu cynnwys colli’r cof, anawsterau o ran meddwl, datrys problemau neu iaith.  

Poeni am eich cof
I unrhyw un sy'n poeni am eu cof eu hunain, neu gof rhywun arall.

Byw'n dda gyda dementia
Mae llawer o bobl yn hapusach os gallant aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Proses ddiagnostig Mae diagnosio dementia yn aml yn anodd, yn enwedig yn y camau cynnar.

Adnoddau i bobl sy'n byw gyda dementia.

Byw gyda dementia cyfnod cynnar (Age Cymru)

Gofalu am rywun â dementia (Age UK)

Cymorth a chyngor i bobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a’u llesiant.

Cynllun Gweithredu Dementia Cymru 2018-2022

Protocol Herbert ar gyfer Pobl ar Goll sydd â Dementia cysylltu gofalwyr teuluol â'r asiantaethau perthnasol pe deuai adroddiad fod eu hanwyliaid ar goll.

Cymorth dros y ffôn drwy Cyswllt Dementia Cymdeithas Alzheimer.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan y Gymdeithas Alzheimer neu ffoniwch Linell Gymorth Genedlaethol Dementia ar 0300 222 1122