“Rwy'n anhapus am rywbeth…”
Os ydych chi'n byw gyda gofalwr maeth neu mewn cartref plant, neu'n cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol mewn rhyw ffordd arall ac rydych chi'n anhapus am rywbeth, mae gennych yr hawl i gwyno amdano.
I wneud hynny, mae angen i chi gysylltu â ni fel y gallwn geisio rhoi pethau'n iawn cyn gynted â phosibl.
Cwyno
Gallwch gwyno trwy lenwi ffurflen gwyno ar-lein neu gysylltu â'r Swyddog Hawliau Plant a Chwynion yng Nghyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR
Ffôn: (01633) 656 656
E-bost: Complaints@newport.gov.uk
Hefyd, gall y Swyddog Hawliau Plant a Chwynion eich helpu i gwyno i wasanaethau eraill sy'n gallu effeithio arnoch chi.
Yn unol â'n safonau ymateb, byddwn yn ceisio cydnabod eich gohebiaeth o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Cam 1 – dywedwch wrthym ni!
Y cam cyntaf tuag at ddatrys problem yw dweud wrth rywun rydych chi'n ei adnabod.
Gall y rhan fwyaf o'ch problemau gael eu datrys ar ôl eu rhannu gyda rhywun.
Bydd siarad â rhywun rydych chi'n ei adnabod ac yn gallu ymddiried ynddo yn aml yn gallu'ch helpu i ddatrys pethau.
Gallwch gwyno eich hun neu efallai byddwch eisiau i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo eich helpu i gwyno.
Hefyd, mae gennych yr hawl i eiriolydd, sef rhywun a fydd yn eich helpu i fynegi eich teimladau neu eich safbwynt.
Os nad oes gennych eiriolydd, siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu'r swyddog hawliau plant a chwynion, a all drefnu hyn i chi.
Peidiwch ag ofni cwyno; byddwn yn ystyried eich cwyn o ddifrif.
Does dim ots sut rydych chi'n cysylltu â ni - nid oes rhaid cysylltu yn ysgrifenedig.
Mae gennych yr hawl i gwyno yn y ffordd sydd orau i chi, trwy siarad â rhywun dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, drwy neges destun, drwy'r e-bost, ar dâp sain neu fideo.
Bydd swyddog yn cael ei enwebu i ymchwilio i'ch cwyn a bydd yn cysylltu â chi o fewn 10 niwrnod gwaith o ddyddiad cydnabod eich cwyn, pan fydd wedi cael cyfle i gael gwybodaeth am eich achos penodol.
Ar yr adeg cysylltu, y gobaith yw y bydd y swyddog sydd wedi'i enwebu yn gallu datrys eich cwyn.
Yn dilyn y cysylltiad hwnnw, bydd y swyddog yn rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i chi o fewn 5 niwrnod gwaith.
Cam 2 – ymchwiliad ffurfiol
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi ymdrin â'ch cwyn, mae angen i chi ddweud wrth y swyddog hawliau plant a chwynion. Bydd y swyddog hwn yn trefnu i ddau berson, nad ydynt yn gweithio i Gyngor Dinas Casnewydd, ymchwilio i'r gŵyn a gwneud yn siwr bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn deg.
Bydd yr ymchwilydd annibynnol a'r person annibynnol yn siarad â chi ac unrhyw un arall sy'n ymwneud â'r gŵyn. Byddant yn ysgrifennu adroddiad a'i anfon at y swyddog hawliau plant a chwynion. Byddwch yn cael crynodeb o'r adroddiad a llythyr gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi ei ymateb i'r adroddiad.
Byddwn yn ymateb i chi o fewn pum wythnos ac os na fydd hyn yn bosibl (er enghraifft, os yw ymchwiliad arall eisoes yn cael ei gynnal), byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio'r oedi.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn parhau i fod yn anfodlon?
Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon ar ganlyniad eich cwyn, mae gennych yr hawl i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae Swyddfa'r Ombwdsmon yn anelu at gwblhau pob ymchwiliad o fewn 12 mis, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cwblhau'n gynt.
Pwy arall y gallaf i siarad â nhw?
I siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch ffonio'r rhifau hyn:
To speak to someone in confidence try these numbers: