Hafan Asesu
Asesiad Gofal Cymdeithasol
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych chi beth yw asesiad gofal cymdeithasol a sut i ofyn am asesiad gofal cymdeithasol
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhoi help i bobl ar sail asesiad o anghenion, sy'n cael ei wneud trwy gyfarfod neu dros y ffôn fel arfer.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn:
- yn gofyn am eich sefyllfa a'ch anghenion
- yn gwirio a oes unrhyw un arall yn barod i gynnig yr help y mae arnoch ei angen, ac yn gallu gwneud
- yn trefnu asesiad, os byddwn o'r farn y gallwn ni helpu
- yn dweud wrthych chi os na fyddwn yn meddwl y gallwn ni helpu ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth am sut arall y gallech chi gael help
Bydd yr asesiad yn ein helpu i ddeall pa gymorth y mae ei angen arnoch ac a ydych chi'n gymwys i gael help gennym ni.
Ni chodir tâl am asesiad.